Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn buddsoddi yn arbenigedd Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newyddion fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dyfarnu naw swydd academaidd a phum ysgoloriaeth PhD iddi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r dyfarniadau yn gydnabyddiaeth o’r rhan arweiniol y disgwylir i Brifysgol Bangor ei chwarae wrth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddod i fodolaeth ym mis Medi 2011. Trwy’r buddsoddiad newydd hwn, sydd gyfwerth â hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf, bydd modd i’r Brifysgol ddatblygu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar raddfa ehangach nag a wnaeth erioed o’r blaen.
Mae’r naw swydd newydd wedi’u dyfarnu ar sail ceisiadau llwyddiannus yn amlinellu cynlluniau i ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o feysydd. Yn sgil y dyfarniadau, gall myfyrwyr Bangor a sefydliadau eraill edrych ymlaen at nifer dda o fodiwlau a datblygiadau cyfrwng Cymraeg newydd mewn meysydd mor amrywiol â Ffrangeg, Cemeg, Cerddoriaeth Boblogaidd, Cerddoriaeth ar gyfer Ffilm, Seicoleg, Polisi Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio ac Astudiaethau’r Amgylchedd.
Mae’r dyfarniadau wedi’u cyllido am hyd at bum mlynedd a disgwylir y bydd y penodiadau i gyd yn eu lle erbyn mis Medi 2011. Yn ogystal ag addysgu a datblygu darpariaeth cyfwng Cymraeg yn eu meysydd arbenigol, bydd disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd hyn gyfrannu hefyd at fywyd deallusol Cymru drwy waith ymchwil, hwyluso cydweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill, a hyrwyddo'r Gymraeg o fewn eu meysydd pwnc a'u sefydliad.
Yn ogystal â’r naw swydd, trwy lwyddo i sicrhau pump o ysgoloriaethau PhD y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2011/12, mae’r Brifysgol wedi dangos bod ganddi olwg ar y dyfodol hefyd a’r gwaith o feithrin y genhedlaeth nesaf o ddarlithwyr ac ysgolheigion. Yn ogystal â chyflawni eu gwaith ymchwil, bydd deiliad yr ysgoloriaethau PhD sydd wedi’u dyfarnu ym meysydd Cyfrifeg, Seicoleg, Cymraeg a Thechnoleg, Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Iechyd hefyd yn ymgymryd yn raddol â dyletswyddau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth groesawu’r dyfarniadau, dywedodd John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor “Mae’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i chwarae rhan arweiniol yn natblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chynnal ei statws fel prif ddarparwr addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud hynny. Mae’r naw swydd sydd wedi’u dyfarnu i’r Brifysgol yn rhan o strategaeth ehangach y Brifysgol i gyfoethogi’r ddarpariaeth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y penodiadau newydd yn ychwanegiad gwerthfawr at y corff sylweddol o staff sydd eisoes yn arloesi ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym Mangor.”
Ychwanegodd, “O roi’r newyddion ardderchog yma ochr yn ochr â phenderfyniad y Brifysgol i benodi Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac i fuddsoddi’n sylweddol yn y neuadd Gymraeg, ni fu erioed amser gwell i fyfyrwyr ddod i Fangor i astudio trwy’r Gymraeg a chael profiad cyfoethog wrth wneud hynny.”
Meddai Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg cenedlaethol “Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y cynllun staffio academaidd, sef un o'r prif ddatblygiadau newydd i ddeillio o sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn arwain at benodi dros 100 o ddarlithwyr newydd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i gyfrannu'n llawn at ysgolheictod o fewn eu meysydd. Eleni, bydd y Coleg yn cyllido 27 o swyddi academaidd drwy'r cynllun hwn, a naw o'r rheiny ym Mhrifysgol Bangor. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Brifysgol ym Mangor i sicrhau y bydd y penodiadau yma yn arwain at gynnydd yn y ddarpariaeth a'r dewis ar gyfer myfyrwyr, nid yn unig ym Mangor ond yn genedlaethol hefyd drwy gynlluniau cydweithredol.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2011