Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar
Mae gwyddonwyr o bedwar ban byd wedi dod ynghyd i nodi'r camau pwysicaf sydd eu hangen ar lywodraeth newydd Madagascar rhag colli rhywogaethau a chynefinoedd unwaith ac am byth.
Ym mis Ionawr, dechreuodd Andag Rajoelina, arlywydd newydd Madagascar, ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd. Mae grŵp o wyddonwyr o Fadagascar, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Unol Daleithiau America a'r Ffindir wedi cyhoeddi papur sy'n tynnu sylw at y camau gweithredu y mae angen i'r llywodraeth newydd eu cymryd i wrthdroi dirywiad dybryd bioamrywiaeth a helpu rhoi Madagascar ar drywydd datblygu cynaliadwy.
Dywedodd Jonah Ratsimbazafy, athro anthropoleg a datblygu cynaliadwy ym Mhrifysgol Antananarivo ac un o'r cyd-awduron:
“Mae gan yr Unol Daleithiau Gerflun Liberty, mae gan Ffrainc dŵr Eifel…. I ninnau ym Madagascar, ein bioamrywiaeth (cynnyrch miliynau o flynyddoedd o esblygiad), yw'r dreftadaeth unigryw yr ydym yn adnabyddus amdani ledled y byd. Allwn ni ddim gadael i'r rhyfeddodau naturiol sydd yma, gan gynnwys 100 o wahanol fathau o lemuriaid nad oes mo'u tebyg yn unman arall ar y blaned, ddiflannu. Rhaid gweithredu nawr cyn iddi fynd yn rhy hwyr”.
Mae'r grŵp yn tynnu sylw at y ffaith bod ardaloedd gwarchodedig Madagascar, sydd gyda'r pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth yn y byd i gyd, wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf o gloddio a choedwigo anghyfreithlon, a chasglu rhywogaethau sydd o dan fygythiad ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes. Maent yn pwysleisio bod yr ansicrwydd sy'n mynd law yn llaw â'r gweithgareddau anghyfreithlon yma'n ddrwg i bobl hefyd yn ogystal â byd natur. Maent yn amlygu'r ffaith nad yw'r anfadwaith yma, a heb dalu dim trethi yn ei sgil, o fudd i'r wlad ac mae'n niweidio'r dreftadaeth naturiol sydd mor bwysig i'r wlad.
Mae'r gwyddonwyr wedi nodi pum maes blaenoriaeth i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio arnynt. Y rhestr yw: buddsoddi mewn ardaloedd gwarchodedig, cryfhau deiliadaeth y bobl leol dros adnoddau naturiol, sicrhau bod datblygiadau seilwaith newydd yn cyfyngu ar yr effeithiau ar fioamrywiaeth, mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, a mynd i'r afael ag argyfwng pren tanwydd cynyddol y wlad trwy fuddsoddiad mawr mewn gwaith adfer.
Mae'r tîm yn pwysleisio bod yn rhaid i gadwraeth ddod â budd, nid niwed, yn lleol.
Dywedodd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor, Y Deyrnas Unedig, a fu'n gweithio ym Madagascar am bron i 20 mlynedd:
Mae Madagascar yn un o'r gwledydd tlotaf yn y byd. Mae mwy na 40% o blant dan bump oed yn nychlyd oherwydd diffyg bwyd ac mae mwy o bobl yn byw mewn tlodi eithafol na bron unman arall ar y ddaear. Felly mae angen i ymdrechion cadwraethol gyfrannu at ymdrechion y wlad i ddatblygu'n economaidd, nid tynnu oddi wrthynt. Ni ddylent wneud pethau'n waeth i'r tlodion gwledig sy'n aml yn cael eu gwthio i'r cyrion pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.”
Mae'r tîm yn sicr y gallai camau yn y pum maes yma wneud gwahaniaeth mawr.
Yr Athro Ratsimbazafy:
“Dyw hi ddim yn rhy hwyr eto i arbed bioamrywiaeth Madagascar, ond mi fydd hi cyn bo hir. Rydym yn galw ar ein llywodraeth, a'r gymuned ryngwladol, i gydweithio i droi'r rhod cyn y bydd yn rhy hwyr. ”
Ychwanegodd yr Athro Jones:
“Ers ei ethol, mae'r Arlywydd Rajoelina yn sicr wedi rhoi arwyddion cadarnhaol iawn ei fod yn cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth Madagascar. Fe sicrhawn ni y caiff gopi o'r papur hwn ac y caiff y cynnwys ei rannu'n eang ym Madagascar (a chyda'r darpar roddwyr y bydd angen eu cymorth arnom). Mae ein cyd-awduron, a holl wyddonwyr cadwraeth gweithgar Madagascar a'r byd sy'n ymboeni am Fadagascar, i gyd yn barod i helpu'r arlywydd newydd sicrhau y gall ei gyfnod yn y swydd fod yn drobwynt pwysig Madagascar, a'i bywyd gwyllt.”
Cyhoeddir y papur 'Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar' yn Nature Sustainability ar 29 Ebrill 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019