Y Gweinidog Cyllid yn cael gweld sut mae prosiect ymchwil sy’n cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn hybu twf busnesau
Yn ddiweddar (Iau 12 Chwefror), bu Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, ar ymweliad â’r Gogledd i weld sut mae prosiect sy’n cael cymorth gan yr UE yn helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol drwy gydweithio â phrifysgolion Cymru.
Prifysgol Bangor sy’n arwain y prosiect Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS). Mae’r prosiect gwerth £31 miliwn hwn yn cael cymorth o fwy na £20 miliwn gan yr UE. Nod y prosiect, sy’n helpu busnesau yng Nghymru i gydweithio ag academyddion a myfyrwyr o brifysgolion Cymru, yw datblygu cynnyrch sy’n torri tir newydd ar gyfer llwyddo yn y byd masnachol.
Mae’r prosiect yn helpu i ysgogi gallu ymchwil ymhlith cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig (BBaCh). Mae’n gwneud hyn drwy eu cefnogi i gynnal ymchwil, datblygu technolegau allweddol newydd a recriwtio ymchwilwyr.
Mae’r cynllun hefyd yn helpu prifysgolion i ddatblygu eu gallu ymchwil drwy baratoi a hyfforddi pobl i ddod yn weithwyr ymchwil proffesiynol gan ymgymryd â chymhwyster gradd Meistr neu PhD. Fel rhan o’r cynllun, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle hefyd i ennill dyfarniad datblygu sgiliau ôl-radd.
Mae bron i 400 o gyflogwyr wedi elwa ar yr ymchwil newydd, lefel uchel, sy’n cael ei chynnal gan raddedigion mewn meysydd twf allweddol fel yr economi ddigidol a charbon isel, iechyd a biowyddorau a pheirianneg uwch.
Cafodd y Gweinidog gyfarfod â chwmnïau sy’n manteisio ar KESS, gan gynnwys Astral Dynamics, BBaCh sydd wedi’i leoli ym Mangor. Mae’r busnes hwn yn datblygu apiau sydd ar flaen y gad ar gyfer nyrsys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd y Gweinidog ymweld hefyd ag Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari yn Llanfairfechan. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal ymchwil i gynhyrchu cnydau bwyd sy’n rhydd o unrhyw glefydau, ac sy’n fwy costeffeithiol ac yn cynhyrchu llai o garbon gan nad oes angen defnyddio unrhyw beth i ladd ffwng na thai gwydr sydd wedi’u gwresogi wrth eu tyfu.
Yn ystod ei hymweliad ag Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari, cafodd y Gweinidog ei thywys o amgylch yr ardaloedd lle mae treialon yn cael eu cynnal. Yn yr ardaloedd hynny, mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal ymchwil a allai arwain at dorri costau wrth gynhyrchu tatws a lleihau ôl troed carbon y broses.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru:
“Mae cronfeydd hanfodol yr UE yn helpu i gynyddu nifer yr ymchwilwyr rhagorol sy gennym ni yma yng Nghymru. O ganlyniad, mae gallu ymchwil Cymru mewn meysydd allweddol yn cynyddu, a bydd hyn yn cael effaith amlwg a hirdymor ar gynhyrchiant a throsiant busnesau.
“Yn ogystal â helpu busnesau i arallgyfeirio a thyfu, mae’r prosiect hefyd wedi arwain at gyflogaeth a budd economaidd ar gyfer pobl Cymru.”
Dywedodd Dr David Shaw, Cyfarwyddwr Ymchwil Ymddiriedolaeth Sarvari:
‘Rydyn ni’n dal i gynnal ymchwil i gnydau sy’n gallu gwrthsefyll clwy tatws drwy fridio tatws gwydn, sydd ddim yn galw am lawer o ofal, ac sy’n gallu gwrthsefyll clwy’r tatws.
“Drwy dyfu’r rhain, bydd llai o blaladdwyr yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd yn ystod y broses o gynhyrchu tatws. Mae prosiect KESS yn ein cefnogi gyda’r ymchwil hon drwy ein helpu i elwa ar y technegau diweddaraf o ran bridio moleciwlaidd.
“Diolch i’r prosiect hwn, rydyn ni wedi gallu ymchwilio i syniadau ymchwil na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth a ddarperir gan KESS.”
Dywedodd Stuart Bond, Cyfarwyddwr Astral Dynamics:
“Mae Astral Dynamics, cwmni gweddnewid technoleg sy’n seiliedig ar wybodaeth, yn tyfu’n gyflym. Ond, fel unrhyw fusnes bach a chanolig arall rydyn ni’n wynebu heriau go iawn wrth geisio cynnal cydbwysedd rhwng cyflenwi a’r angen am Ymchwil a Datblygu parhaus.
“Drwy gydweithio â KESS, rydyn ni wedi llwyddo i noddi dau fyfyriwr ar brosiectau sy wir yn cyflawni canlyniadau Ymchwil a Datblygu ar ein rhan ni. Ac, rydyn ninnau wedi gallu ariannu eu cyrsiau Meistr hwythau. Diolch i KESS, rydyn ni mewn sefyllfa well nawr i fynd i’r afael â heriau allweddol sy’n wynebu cymdeithas a rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu cyfleoedd gwaith hirdymor ar gyfer unigolion medrus lleol. Mae pawb ar eu hennill; Astral Dynamics a’r myfyrwyr Meistr. Ond, mae buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu hefyd yn rhan allweddol o’r ateb i’n helpu ni i gyd i ddod allan o’r argyfwng economaidd rydyn ni ynddo heddiw.”
Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Rydyn ni’n falch o groesawu’r Gweinidog i Fangor unwaith eto a diolch iddi am ei chefnogaeth i KESS. Mae’r prosiect wedi galluogi prifysgolion Cymru i weithio gyda chwmnïau a sefydliadau lleol i gynnal ymchwil y bydd y cwmnïau eu hunain yn elwa’n uniongyrchol arni ac a fydd yn dod â budd economaidd mawr i Gymru.
“Dim ond un maes y mae’r Brifysgol yn gweithio ynddo gyda Llywodraeth Cymru ac Ewrop i ddod â budd economaidd i’r ardal leol ac i fusnesau yng Nghymru yw’r fenter KESS.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015