Y Gweinidog Leighton Andrews yn Ymuno â Cherddorion i Osod y Garreg Sylfaen
Caiff carreg sylfaen canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd Bangor ei gosod heddiw (dydd Gwener) gan Leighton Andrews AC mewn seremoni greadigol a cherddorol.
Bydd aelodau band jazz a band pres Ysgol Tryfan a'r unawdwyr Rhys Meirion a Huw Ynyr yn ymuno â'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ac yn rhoi perfformiad unigryw mewn hetiau caled ar y safle adeiladu.
Bydd y ganolfan £44 miliwn sy’n cael ei hadeiladu gan Miller Construction yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddiwallu anghenion cymunedau a busnesau lleol. Bydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol, artistig a chymunedol arloesol gyda’r bwriad o hyrwyddo cydweithredu, darganfod a dysgu, a gwneud cyfraniad unigryw at adfywio Bangor a gwella sgiliau.
Bydd Pontio yn cael £27.5m o arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, yn ogystal a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Brifysgol ei hun. Bydd yn cynnwys theatr newydd, theatr stiwdio, sinema, stiwdio ddylunio ac arloesi, cyfleusterau addysgu a dysgu, Undeb y Myfyrwyr a bar, caffi a mannau cyhoeddus.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Bydd y ganolfan yn ganolbwynt i’r gymuned leol ac i'r brifysgol - bydd yn lle i gyfarfod, dysgu a chael eich diddanu ac yn gartref i ymchwil, dylunio a dysgu arloesol. Bydd yn lle unigryw a allai drawsnewid Bangor."
Dywedodd Leighton Andrews: “Mae'n bleser gennyf gael bod yn rhan o'r seremoni i osod carreg sylfaen y datblygiad newydd a phwysig hwn. Bydd yn ddiamau yn adeilad eiconig.
"Rwy'n falch o bob cyfle i bwysleisio a dathlu llwyddiant yng Nghymru, ac rwy'n hyderus y bydd y datblygiad pwysig hwn - sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru - yn hwb mawr i'r celfyddydau ac arloesi, nid yn unig yn y Brifysgol ac ym Mangor, ond yn yr ardal yn gyffredinol.
“Fel cyn-fyfyriwr y brifysgol hon, mae gweld yr holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn ystod y tri degawd diwethaf yn gyffrous iawn.”
Dywedodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio:
"Rydym eisiau tanio dychymyg pobl ar y safle adeiladu heddiw trwy roi blas iddynt o'r hyn sydd i ddod. Bydd y ganolfan yn gartref i bob math o greadigrwydd, yn ddrama a chabaret, yn theatr awyr a chyngherddau clasurol.
“Bydd y cerddorion sydd yma heddiw i gyd yn perfformio mewn hetiau caled ac yn arddangos y gorau o gerddoriaeth Cymru a cherddoriaeth ryngwladol.
“I gyd-fynd â'r digwyddiad, bydd rhai o ‘HaDAsyniaDA’ plant ysgol Bangor i'w gweld ar yr hysbysfyrddau o flaen y safle. Mae'r syniadau hyn, a fynegwyd gan bobl ifanc o'r 11 ysgol ym Mangor, yn adlewyrchu eu gobeithion i'r ganolfan newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2013