Y Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn penodi Cymrodyr newydd
Mae pedwar aelod o staff Prifysgol Bangor wedi’u hethol yn Gymrodyr o’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn dilyn canlyniad Etholiad 2013 am Gymrodyr newydd.
Yr unigolion sydd newydd eu hethol yw:
Yr Athro Dyfrig Hughes FLSW, Athro Ffarmacoeconomeg, Y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau; Yr Athro John Hughes FBCS FLSW, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor; cyn Ddeon y Gyfadran Gwybodeg, Prifysgol Ulster, a Llywydd Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth
Yr Athro Jerry Hunter FLSW, Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil (Diwylliant), Pontio, Athro Thomas Watkin FLSW, Athro Anrhydeddus y Gyfraith, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd; cyn Brif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru.
Dywedodd Syr John Cadogan, Llywydd y Gymdeithas:
“Rydym unwaith eto wedi ethol cohort cryf o Gymrodyr newydd, i ychwanegu at y rhestr ragorol o Gymrodyr Cychwynnol a Chymrodyr. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiad a fernir drwy adolygiad cymheiriaid. Bydd cael eu hethol yn parhau i fod yn darged i’n hysgolheigion ifanc.”
Etholir i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Ddysgedig drwy drefn o enwebiadau gan Gymrodyr cyfredol. Mae ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:
· sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac
· sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.
Etholiad 2013 yw’r drydydd mewn proses dreigl tuag at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd y Gymdeithas yn parhau i ganolbwyntio ar ragoriaeth a chyflawniad ac felly’n sicrhau bod ei Chymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau o’r hyn y gall Cymru ei gyflawni yn y prif ddisgyblaethau academaidd.
Ymysg Cymrodyr eraill o Brifysgol Bangor y mae:
Yr Athro David Crystal OBE FLSW FBA - Cymrawd Athrofaol Er Anrhydedd, Prifysgol Bangor; Is-Lywydd, y Sefydliad Ieithyddiaeth; yn flaenorol, Athro, Prifysgol Reading
Yr Athro Roy Evans CBE FREngFICE FIStructE FLSW - yn flaenorol: Athro Peirianneg Sifil a Strwythurol, Prifysgol Caerdydd; Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
Yr Athro Charles Stirling FRSC FLSW FRS - yn flaenorol: Athro Cemeg Organig, Prifysgol Bangor; Athro Cemeg Organig, Prifysgol Sheffield
Yr Athro Steven Tipper AcSS FLSW FBA - Athro Gwyddoniaeth Wybyddol, Prifysgol Bangor; yn flaenorol, Cyfarwyddwr, Canolfan Niwrowyddoniaeth Glinigol a Gwybyddol Wolfson, Prifysgol Bangor
Y Parch Owen E. Evans DD FLSW - cyn Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Beiblaidd; Cyfarwyddwr; Y Beibl Cymraeg Newydd;
Yr Athro Gareth Wyn Jones DSc FIBiol FRSC FLSW - Athro Emeritws; cyn Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth;
Mr Alwyn Owens FLSW - cyn Uwch ddarlithydd mewn Electroneg,
Yr Athro Huw Pryce FRHistS FLSW - Athro Hanes Cymru, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg;
Yr Athro Alan Shore FInstP FLSW - Athro Peirianneg Electronig, Ysgol Peirianneg Electroneg ;
Yr Athro Gwyn Thomas FLSW - Athro Emeritws yn y Gymraeg, cyn bennaeth Ysgol y Gymraeg;
Yr Athro Nancy (Margaret) Edwards FSA FLSW - Athro Archeoleg yr Oesoedd Canol, Ysgol hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg;
Yr Athro John (Martin) Harper DMus FRCO(CHM) FRSCM FLSW, RSCM - Athro Ymchwil mew cerddoroaeth a Litwrgi, Cyfarwyddwr Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig ;
Yr Athro (David) Barrie Johnson DSc FLSW - Ysgol Gwyddorau Biolegol;
Yr Athro Ian Rees Jones FLSW- Athro Cymdeithaseg a phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol;
Yr Athror Timothy Porter FLSW - Athro Emeritws Professor Mathemateg;
Yr Athro Robert D Rafal FLSW - Athro Niwrowyddoniaeth Clinigol a Niwroseicoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013