Y Gymraeg ar Daith
Mae Ysgol y Gymraeg yn rhan o gynllun cenedlaethol uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ysgol o astudio Cymraeg ar gyfer lefel ‘A’ ac yn y brifysgol. Yn ystod mis Tachwedd bydd bron i 2000 o ddisgyblion mewn 40 ysgol uwchradd yn elwa ar y cynllun drwy gyfres o ymweliadau.
Noddir y cynllun gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu adrannau Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru’n cydweithio i baratoi rhaglen gyfoethog o weithdai i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Mae’r project yn ymateb i’r angen i fynd i’r afael â’r her sy’n wynebu pynciau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc lefel ‘A’ a phwnc academaidd.
Lansiwyd y cynllun yn swyddogol yn Ysgol Bro Edern, Dwyrain Caerdydd fore Mawrth, 24 Hydref ym mhresenoldeb Alun Davies, Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg. Mae disgyblion yn yr ysgol ym Mlwyddyn 12 am y tro cyntaf eleni a phump ohonynt yn astudio Cymraeg Safon Uwch.
Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad â Swyddog Pwnc y Gymraeg yn CBAC ac athrawon Cymraeg ledled Cymru.
Bydd dwy elfen i’r gweithdy – sesiwn gyda’r beirdd Rhys Iorwerth neu Aneirin Karadog yn seiliedig ar eu cerddi sydd ar y fanyleb TGAU Llenyddiaeth, a hefyd sesiwn yng ngofal adrannau Cymraeg y prifysgolion, sy’n annog disgyblion i ystyried y manteision o barhau i astudio’r Gymraeg.
Bwriad y sesiynau rhyngweithiol yw dod â’r maes llafur yn fyw a hefyd danio diddordeb a brwdfrydedd y disgyblion yn y Gymraeg fel pwnc y tu hwnt i’r cymhwyster TGAU.
Bydd pwyslais yn sesiwn y prifysgolion ar ddangos perthnasedd y Gymraeg i fywyd bob dydd yn ogystal â dangos sut mae astudio’r Gymraeg yn gwella sgiliau a chynnig cyfleoedd gyrfa unigryw.
Bydd hefyd sylw i natur gyffrous, amrywiol, ac amlddisgyblaethol gwahanol raddau Cymraeg.
Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor:
“Yn sgil targedau uchelgeisiol y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ynghyd â’r galw cynyddol am raddedigion sy’n gallu gweithio’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, mae’n amserol bod adrannau Cymraeg y prifysgolion yn cydweithio i hybu’r Gymraeg fel pwnc. Mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn falch iawn o fod yn rhan o gynllun mor uchelgeisiol a chyffrous â hwn sydd hefyd yn ffrwyth cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CBAC.”
O’r chwith i’r dde: Dr Dylan Foster Evans (Prifysgol Caerdydd), Yr Athro Tudur Hallam (Prifysgol Abertawe), Alun Davies (Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg), Dr Cathryn Charnell White (Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Gerwyn Wiliams (Prifysgol Bangor), Y Prifardd Rhys Iorwerth, Llinos Lloyd (CBAC), Rhian Jones (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Dr Gwennan Schiavone (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Yr Athro Mererid Hopwood (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Eurgain Evans (Ysgol Bro Edern), a phedwar o ddisgyblion Ysgol Bro Edern.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017