‘Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru’ Digwyddiad Rhwydweithio WISERD
Daeth criw da ynghyd i’r digwyddiad hwn ar 15 Mehefin 2011, yn cynnwys gweithredwyr lleol, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt, a chanddynt ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cymunedau lleol ac ymgyrchoedd a chynlluniau amgylcheddol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth a hefyd ‘lansiwyd’ rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden. Cafwyd rhaglen lawn o anerchiadau, rhai’n trafod projectau, ymgyrchoedd, cynlluniau a busnesau artistig ac amgylcheddol dan arweiniad cymunedau, rhai eraill yn ymdrin ar raddfa fwy â rhwydweithiau arbenigedd cenedlaethol ar draws Cymru, a rhai eraill eto’n trafod y sefyllfa’n fyd-eang trwy ddisgrifiadau o’r ymchwil diweddaraf ar newid yn yr hinsawdd sy’n cael ei wneud yng Nghymru, a phrojectau sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru ac yn Affrica. Daeth y diwrnod i ben gydag anerchiad bywiog gan Dr John Barry o Brifysgol Queens Belffast ar destun 'Vulnerability and Resilience in Contemporary Green Thought'.
Gellir gweld yr holl gyflwyniadau ar y we yma.
Dyma un o sawl sylw cadarnhaol ar y diwrnod: “Roedd yn rhyfeddol bod amrywiaeth mor eang o brojectau a gweithgareddau yn cael eu trafod mewn cyn lleied o amser. Roedd yn ddefnyddiol ac yn ysgogol yn ogystal â bod yn ddifyr ac yn ddiddorol”.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011