Y Gyntaf yng Ngwynedd
Bydd Canolfan Heneiddio’n Dda cyntaf Gwynedd yn cael ei hagor yn swyddogol dydd Mercher, 12 Hydref, gyda Diwrnod Agored arbennig sy’n cynnig sesiynau blasu a stondinau gwybodaeth.
Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli yn Nefyn, Pen Llŷn, ac mae’n brosiect a weinyddir ar y cyd gan Age Cymru Gwynedd a Môn a Phrifysgol Bangor. Mae’r Ganolfan ar agor i unrhyw un sydd yn 50 oed a drosodd, ac mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys Tai Chi, sesiynau celf a chrefft a phrosiectau amgylcheddol.
Bydd y Ganolfan ar agor deirgwaith yr wythnos – ar ddydd Llun, Mercher a Gwener – o 9.30 y bore hyd at 3.30 y prynhawn.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn agor y Ganolfan Heneiddio’n Dda amhrisiadwy hon a leolir oddi fewn y Ganolfan Gymdeithasol newydd sbon yn Nefyn,” meddai Prif Weithredwr Age Cymru Gwynedd a Môn, John Clifford Jones. “Rydym yn gobeithio y bydd yn datblygu yn fan cyfarfod bywiog i drigolion yr ardal sydd dros 50 oed. Mi fyddwn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau yn y Ganolfan, bydd rhywbeth yma i blesio pawb.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid yn y prosiect, Prifysgol Bangor, am eu cefnogaeth. Mae’n gyffrous ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i gyfoethogi bywydau'r rhai hynny sydd dros 50 oed ac yn byw yng Ngwynedd. Bydd yr ymchwil a wneir gan y Brifysgol yn y Ganolfan hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig a all yn y dyfodol gynnig fwy o gymorth i aelodau hŷn ein cymunedau.”
“Rwy’n gyffrous iawn am y bartneriaeth arloesol hon gyda Age Cymru Gwynedd a Môn,” meddai’r Athro Linda Care, o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor. “Gan weithio gyda’n gilydd er lles pobl hŷn a’u cynorthwyo i gynnal ansawdd da eu bywyd, byddem yn gallu casglu ynghyd tystiolaeth bendant am y manteision y bydd y Ganolfan Heneiddio’n Dda yn dod i’r rhai sydd dros 50 oed yng Ngwynedd, a ddylai gefnogi mentrau pellach yn y dyfodol.”
Bydd pum aelod o staff yn cael eu cyflogi gan y Ganolfan, ond oherwydd yr ystod eang o weithgareddau sy’n cael ei gynnig ar draws y ddwy sir, mae Age Cymru Gwynedd a Môn bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr.
Meddai’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Terry Jones, “Mi faswn ni wrth ein boddau yn clywed gan unrhyw un sydd ag amser rhydd i sbario. Heb gymorth ein gwirfoddolwyr, ni fyddem yn gallu cynnig yr holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Rydym yn gwerthfawrogi pob awr o’ch amser. Os hoffech chi ein helpu, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n canolfan yng Nghaernarfon, ffon: 01286b 671111 neu trwy gyfrwng yr e-bost, elaine@agcm.co.uk <mailto:elaine@agcm.co.uk>. Mae gwaith gwirfoddol yn cynnig llawer o foddhad, ac mae’n hwyl! Cewch y cyfle i gyfarfod â bob math o bobl ddiddorol.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011