Y Llwyth Gwaith Tecaf ac ail yng Nghymru am Ofal Myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Bangor y llwyth gwaith tecaf ym Mhrydain yn ôl arolwg diweddar o fyfyrwyr, a roddodd Bangor yn gydradd gyntaf am yr elfen honno, ac yn ail yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr.
Yn arolwg diweddaraf y Times Higher Education ar Brofiad Myfyrwyr, roedd myfyrwyr Bangor yn canmol y Brifysgol yn benodol am ei “hamgylchedd da”, ei chyfleusterau llyfrgell, a phan ofynnwyd iddynt a fyddent yn argymell y Brifysgol i ffrind – cymeradwyaeth ysgubol. Rhoddwyd cyfanswm o 6.1 allan o 7 posibl i'r categorïau hyn.
Rhoddodd myfyrwyr y Brifysgol ganmoliaeth uchel hefyd i'r amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon a chymdeithasau sydd ar gael, y llety, diogelwch a staff cymwynasgar, llawn diddordeb, gan sgorio 6 allan o 7 posibl.
Roedd addysgu a gofal myfyrwyr rhagorol Bangor yn cael eu hadlewyrchu gan ymatebion da i'r categorïau’n ymwneud â'r maes hwn: staff a darlithwyr o safon dda, y berthynas dda sydd gan fyfyrwyr gyda'u darlithwyr, cefnogaeth a lles da a llwyth gwaith teg (i gyd yn derbyn 5.9 allan o 7).
Gan roi sylwadau am y canlyniadau, dywedodd yr Is-Ganghellor, John G. Hughes:
“Mae'r arolwg hwn yn adlewyrchu'r hyn y gwyddom sy'n wir am ein Prifysgol - rydym ni'n Brifysgol ofalgar, gyfeillgar gyda safon addysgu a gofal bugeiliol rhagorol, mewn lleoliad gwych, boed i astudio neu gymdeithasu ynddo. Mae ein holl glybiau a chymdeithasau am ddim i'n myfyrwyr er mwyn eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt tra'u bod yn y Brifysgol, os ydynt yn gysylltiedig â'u hastudiaethau, neu'n gymdeithasol. Er hyn, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael yr amser gorau posibl yn y Brifysgol."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013