Y Mabinogion, yr Iddewon ... a Gareth Bale
Mae astudio’r Mabinogion wedi mynd ag un o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor i strydoedd Jerusalem. Ac mae hynny wedi agor y drws ar gymharu’r chwedlau gyda rhai o straeon un o sectau mwya’ hynod yr Iddewon.
Mi ddechreuodd y cyfan wrth i Dr Aled Llion Jones astudio rhestr o bobl oedd wedi cyfieithu’r Pedair Cainc ac, yn eu plith, roedd athronydd o’r enw Martin Buber, sydd wedi sgrifennu llawer am y berthynas rhwng y dynol a’r duwiol. “Dyna’r math o beth sydd yn y Pedair Cainc, y berthynas rhwng y byd yma a’r byd arall, gwneud i’r byd arall fod yn bresennol yn y byd yma.” Mae hynny’n rhan fawr o draddodiad cyfriniol yr Iddewon Hasidig a’u straeon hwythau, a dyna oedd wedi denu Martin Buber at y Mabinogion – yn ôl Aled Llion Jones mae’n ffordd “newydd, gyffrous” o edrych ar y chwedlau.
Bellach, mae yntau wedi cyhoeddi erthygl yn y gyfrol ddiweddara’ o ‘Ysgrifau Beirniadol’ – ffrwyth ei daith i Israel yn haf 2016, pan gafodd gyfle i ddarllen rhai o’r dogfennau yn archif Buber ei hun yn y Llyfrgell Cenedlaethol.
Ac yntau wedi darlithio yng Ngwlad Pwyl, roedd ganddo afael ar ddwy o ieithoedd Buber – Pwyleg ac Almaeneg – ac fe aeth ati i ddysgu i adnabod geiriau Hebraeg hefyd.
"Roedd yn dipyn o wefr cael bod yn yr archif, ac yr oedd llawer o ddogfennau pwysig iawn, yn ogystal â llawer, llawer mwy nad oeddent yn gysylltiedig â prosiect penodol hwn ond roedd yn ddiddorol iawn. Roedd Buber yn ganolog i fywyd deallusol a diwylliannol Jewry Ewropeaidd yr ugeinfed ganrif cynnar, ac mae'r trafodaethau ynghylch sefydlu'r wladwriaeth Israel ei hun, a'r Brifysgol Hebraeg yn Jerwsalem. Fodd bynnag, er bod oedd yn dod i ffwrdd gyda chyfoeth o wybodaeth, yr oeddwn yno am amser rhy fyr, ac mae angen imi edrych ar gyfer 'Greal sanctaidd' y prosiect penodol hwn – y Buber hanodi copi o'r pedair cangen! "
“Roedd yn dipyn o wefr cael bod yn yr archif ond mae’r Greal Sanctaidd ar ôl – yr union nodiadau yr oedd Buber wedi eu gwneud wrth gyfieithu’r Pedair Cainc!”
Roedd bod yn Jerusalem hefyd yn “brofiad bythgofiadwy”, meddai, mewn dinas sy’n gyforiog o hanes a gwrthdaro gwleidyddol.
A dyna pam fod Aled Llion Jones yn diolch i’r pêl-droedwr fyd-enwog Gareth Bale – dim ond trwy’r enw hwnnw y llwyddodd i egluro lle oedd Cymru a thawelu amheuon heddlu arfog oedd yn amau beth yr oedd yn ei wneud.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2018