Y Prif Weinidog yn lansio canolfan gelfyddydau gwerth miliynau o bunnoedd ym Mangor
Heddiw [Dydd Gwener 21 Ionawr], cafodd Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi heb ei hail yng nghanol Bangor, ei lansio wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ymweld â’r datblygiad.
Bydd canolfan Pontio ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ddatblygiad gwerth £37 miliwn, ac sydd wedi derbyn £27.5 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys theatr gyda lle i rhwng 450 a 550 o seddi, sinema, a theatr stiwdio yn ogystal ag amffitheatr awyr agored. Bydd cyfleusterau newydd a chyffrous i gymdeithasu i’w cael yno hefyd, gan gynnwys barrau, mannau bwyta a pharciau.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys canolfan arloesi ddeinamig, a fydd yn cynnig cyfleusterau ar gyfer cynllunio ar draws aml ddisgyblaethau, gan ganiatáu i fusnesau bach a chanolig ymgysylltu’n well er mwyn hyrwyddo datblygiad cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd. Mae’n cael ei chynllunio i safon “ardderchog” Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ( BREEAM ), gan ddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Bydd addysgu’r celfyddydau a gwyddoniaeth yn digwydd o dan yr un to yn y ganolfan, a bydd yn cynnig y cyfleusterau addysgu a dysgu diweddaraf, a fydd o fudd i’r gymuned, busnesau a myfyrwyr y Brifysgol. Mae disgwyl i’r ganolfan agor yn ystod 2013.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Rwy’n falch o fod yma heddiw i weld y cynlluniau ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn cynnig llawer o gyfleusterau a chyfleoedd i ddinas Bangor a’r Gogledd-orllewin. Bydd y cynllun hwn yn elwa ar sgiliau ac arbenigedd lleol, ac yn diogelu cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn hyrwyddo twf economaidd yr ardal. Bydd hynny’n profi bod y prosiect yn bodloni gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad am genedl fywiog a llewyrchus a’n bod ni, yma yng Nghymru, yn defnyddio Cronfeydd Strwythurol mewn modd effeithiol a strategol i greu etifeddiaeth o dwf cadarn a chynaliadwy.”
Dywedodd Yr Athro Fergus Lowe, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Rydyn ni’n hynod o gyffrous o weld y prosiect PONTIO yn dechrau o ddifrif. Bydd PONTIO yn cynnig canolbwynt i’r gymuned leol fel canolfan lle y gall pobl gyfarfod, dysgu a chael eu difyrru. Bydd yn ganolbwynt diwylliannol i Gymru ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Bydd yn ganolfan arwyddocaol ar lefel ryngwladol hefyd, o ran dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio, ac yn symbol cadarn o adfywio, cydweithio a thwf economaidd i’r gymuned gyfan.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2011