Y rhwydwaith uwchgyfrifiadura gwasgaredig cyntaf yn y DU yn rhoi hwb i fusnesau Cymru
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gael rhwydwaith uwchgyfrifiadura cenedlaethol gwasgaredig, sy’n golygu bod busnesau Cymru bellach yn gallu manteisio ar dechnoleg gyfrifiadura gystal ag y byddech yn ei chael yn unrhyw ran o’r byd, ynghyd â’r hyfforddiant, yr allgymorth a’r gefnogaeth dechnegol i’w defnyddio’n effeithiol.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at y garreg filltir ddiweddaraf i’w chyrraedd gan gwmni Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, a ffurfiwyd er mwyn rheoli cydweithrediad a rhannu gwasanaethau rhwng Prifysgolion yng Nghymru. Mae ein menter unigryw’n galluogi cwmnïau ac ymchwilwyr prifysgol yng Nghymru i gyflymu prosesau arloesi drwy ddefnyddio’r dechnoleg uwchgyfrifiadura ddiweddaraf. Mae Prifysgol Bangor yn hynod falch o fod yn aelod o’r fenter hon.
Gall technoleg cyfrifiadura perfformiad uchel ymdrin â symiau aruthrol o ddata a’u dadansoddi’n gyflym iawn, gan ddod â chynnyrch a gwasanaethau newydd i’r farchnad yn gynt. Mae HPC Cymru o bwysigrwydd strategol mawr i economi Cymru a’i nod yw troi Cymru’n ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer cymwysiadau ymchwil uwchgyfrifiadura arbenigol, gan sicrhau bod Cymru’n tyfu ei heconomi wybodaeth a bod ganddi fantais gystadleuol ryngwladol gref.
Mae maint y fenter, ei natur wasgaredig, ynghyd â’r ffaith ei bod yn cynnig mynediad agored i fusnesau, yn ei gwneud yn unigryw yn y DU ac yng ngweddill Ewrop. Cefnogwyd y fenter â £24m gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a £10m gan Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau’r DU. Datblygwyd y seilwaith a rhai gwasanaethau mewn partneriaeth â Fujitsu, cynhyrchwyr uwchgyfrifiadur cyflyma’r byd.
Mewn digwyddiad yn y Senedd yn ddiweddar, lle traddodwyd anerchiad gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, cafodd cynulleidfa wahoddedig o Lywodraeth Cymru, Prifysgolion yng Nghymru, a busnesau a sefydliadau addysgol, cyfle i ddathlu’r cyhoeddiad a wnaethpwyd yn ddiweddar bod Fujitsu, sy’n darparu gwasanaeth technoleg i HPC Cymru, wedi dyfarnu saith ysgoloriaeth ymchwil sy’n cael eu hariannu’n llawn yn y sectorau ynni morol, yr amgylchedd a gwyddorau bywyd, gan ddod â buddsoddiad o dros £500,000 i Gymru. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd HPC Cymru a Fujitsu yn ariannu cyfanswm o 20 ysgoloriaeth ymchwil mewn sectorau blaenoriaeth allweddol yng Nghymru.
Dywedodd David Craddock, Prif Weithredwr HPC Cymru:
“Mae HPC Cymru’n ceisio gwneud busnesau Cymru’n fwy cystadleuol mewn marchnadoedd byd-eang a datblygu’r economi wybodaeth yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer gwaith.
“Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cymru’n gartref i rwydwaith cyfrifiadura perfformiad uchel heb ei ail ac i’r rhwydwaith gwasgaredig mwyaf yn y DU, a hefyd bod busnesau ac ymchwilwyr yng Nghymru’n gallu manteisio ar y dechnoleg a’r gwasanaethau arloesol hyn yn lleol erbyn hyn, a hynny’n syml ac yn ddiogel er mwyn cyflymu eu prosesau ymchwil ar gyfer arloesi masnachol. Gallwn hefyd ddarparu gwasanaethau â gostyngiad sylweddol i’r cwmnïau hynny sydd yn ardaloedd Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd.”
Un cwmni Cymreig sy’n defnyddio cyfrifiadura perfformiad uchel i wneud ei hun yn fwy cystadleuol yw cwmni Knowtra ym Mangor. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn materion amgylcheddol ac yn cynnig gwasanaeth ymgynghori ynglŷn â’r hinsawdd ac eigioneg, hyfforddiant ac efelychiadau cyfrifiadurol eigionegol. Mae’r cwmni’n defnyddio HPC Cymru i gynhyrchu efelychiadau manylach a datblygu algorithmau a fydd yn helpu i hybu gwerthiant a diogelu swyddi.
Yn ôl Cyfarwyddwr Knowtra, Dr Steve Spall:
“Fel busnes bach sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori eigionegol i brosiectau rhyngwladol, rydym yn dibynnu ar gyfrifiadura modern er mwyn gwneud efelychiadau a gwaith prosesu data i’n cleientiaid. Bydd HPC Cymru yn cynyddu’r capasiti cyfrifiadura sydd ar gael i’n tîm o leiaf gan gwaith cymaint, gan wella ansawdd ein gwasanaethau ac ategu ein cynlluniau ar gyfer twf.”
Yn ôl David Craddock:
“Gall uwchgyfrifiadura fod o fudd i unrhyw fusnes, beth bynnag ei faint. Mae’n dechnoleg amlbwrpas y gellir ei haddasu ar gyfer anghenion unigol, ac mae’r defnydd y gellir ei wneud ohoni’n anhygoel o eang. Hyd yn hyn mae’r dechnoleg wedi cael ei defnyddio’n bennaf gan ymchwilwyr academaidd a busnesau mawr, ond yn y dyfodol bydd ar fwy o fusnesau bach a chanolig eu maint angen mynediad at y dechnoleg er mwyn cael mantais gystadleuol. Rydym yn ceisio eu hyfforddi a’u cefnogi i gael y budd mwyaf o’r dechnoleg.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012