Y "Scallop Association” yn ariannu project cydweithredol i ddiffinio pysgodfa cregyn bylchog y Sianel
Mae project ymchwil PhD wedi ei ariannu gan ddiwydiant wedi dechrau ym Mhrifysgol Bangor i wella dealltwriaeth pobl am bysgodfa cregyn bylchog yn y Sianel.
Dyma'r project cydweithredol cyntaf rhwng cwmnïau prosesu a physgotwyr a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a CEFAS, ac mae dan arweiniad aelodau'r "Scallop Association", sydd wedi gweld bod bylchau sylweddol yn y data sydd ei angen er mwyn i'r bysgodfa allu symud tuag at statws ardystiedig.
Dywedodd Mark Greet, cadeirydd y “Scallop Association” a chyfarwyddwr Falfish Ltd. “Rydym yn gwybod bod ein pysgodfeydd cregyn bylchog yn darparu cynnyrch o ansawdd uchel i farchnadoedd yn y DU a thramor, ond dim ond trwy bysgota cynaliadwy y gallwn sicrhau proffidioldeb tymor hir i’r diwydiant. Mae’n hanfodol bod y project cydweithredol hwn yn casglu setiau data ynghyd fydd yn gymorth i ni ddiffinio pysgodfa cregyn bylchog y Sianel.
Dywedodd yr Athro Mike Kaiser o Brifysgol Bangor, sy’n cyd-oruchwylio’r PhD gyda Dr Ewen Bell o CEFAS, “Mae pysgodfeydd cynaliadwy o amgylch y byd wedi eu seilio ar wybodaeth wyddonol o ansawdd uchel am eu bioleg a’u statws. Mae’r ffaith bod y diwydiant bwyd môr yn ariannu’r ymchwil hwn yn dangos eu bod yn cydnabod y cyfraniad pwysig sydd gan wyddoniaeth i’w wneud at y gwaith o ddiogelu dyfodol adnodd bwyd gwerthfawr a physgodfa broffidiol.”
Defnyddiwyd y cyllid a ddarparwyd gan y cwmnïau prosesu a’r pysgotwyr, ynghyd â bwrsariaeth PhD a roddwyd gan y “Fishmongers’ Company” i recriwtio Claire Szostek i wneud y gwaith ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor. Roedd Ms Szostek yn gweithio i’r “Co-operative Group” cyn astudio am MSc Gwarchod yr Amgylchedd Morol ym Mangor.
Dywedodd yr Athro Kaiser, "Bydd llwyddiant y project blaengar hwn yn dibynnu ar gyfraniad gweithredol gan y diwydiant cregyn bylchog yn y Sianel. Bydd rhaid i ni ddibynnu ar y diwydiant i gyflawni llawer o’r tasgau y mae gwyddonwyr yn ymgymryd â hwy fel rheol.”
Mae cam cyntaf y project eisoes yn mynd rhagddo ac mae’n datblygu ar ymchwil a wnaed yn Ynys Manaw ar strwythur poblogaeth cregyn bylchog yn y DU. Ychwanegir safleoedd samplu ychwanegol yn y Sianel ac ardal y dyfroedd gorllewinol at y data sy’n bodoli eisoes er mwyn diffinio maint pysgodfa cregyn bylchog y Sianel.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Claire Szostek yn gweinyddu holiadur er mwyn darganfod maint gwelyau’r cregyn bylchog, yn awr ac yn y gorffennol, ac er mwyn holi’r pysgotwyr am newidiadau ym mhatrymau silio, dosbarthu a recriwtio’r cregyn bylchog dros amser.
Dywedodd yr Athro Kaiser, “mae’r hyn rydym wedi ei ddysgu trwy wrando ar y pysgotwyr wedi bod o gymorth amhrisiadwy i ni ddeall y bysgodfa’n well a sut i ddehongli'r hyn rydym wedi ei weld trwy arsylwi. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar fodloni anghenion data proses achredu'r Cyngor Stiwardiaeth Forol ar gyfer y bysgodfa hon. Mae’n llwybr llawn her, ond amlwg, i’r wyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2011