Y tu ôl i Eyes Wide Shut
Bydd symposiwm, yr unig un o'i fath i'w gynnal yn y Deyrnas Unedig, yn edrych ar waddol Eyes Wide Shut, ffilm olaf y cyfarwyddwr ffilm, Stanley Kubrick.
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng yr UAL Archives and Special Collections Centre a Phrifysgol Bangor.
Bydd yn cynnwys ystod eang o academyddion yn trafod y ffilm o sawl safbwynt.
Yr uchafbwyntiau fydd prif anerchiad gan Yolande Snaith a goreograffodd olygfa'r cywestach, a phanel o'r rhai a weithiodd ar y ffilm, gan gynnwys y 'fenyw ddirgel' â masg, Abigail Good, Kira-Anne Pelican a weithiodd yn yr adran gelf, gweithredwr y Steadicam, Peter Cavaciuti, yr artist Fangorn (Chris Baker) a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Technegol Ewropeaidd Warner Brothers, Tim Everett.
Fe’i cynhelir ddydd Llun 16 Rhagfyr, 12:00 - 6:00pm a dydd Mawrth 17 Rhagfyr, 9:15am -6:30pm yn y London College of Communication, Elephant and Castle, Llundain SE1 6SB.
Bydd chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor yn mynychu’r digwyddiad, drwy haelioni UAL a Cronfa Bangor.
Ugain mlynedd ers ei rhyddhau, mae Eyes Wide Shut Stanley Kubrick yn parhau i fod yn ffilm gymhleth, weledol gref am fywyd teuluol, cynyrfiadau rhywiol, a breuddwydion. Hwn oedd y gwaith enigmatig olaf gan ei grëwr a oedd yr un mor enigmatig. Gadawodd farc annileadwy ar ein diwylliant poblogaidd ac mae'n parhau i fod mor berthnasol ag erioed.
Cafodd Eyes Wide Shut ei difrïo a'i chamddeall yn enbyd pan ddaeth allan gyntaf, ac ers hynny mae wedi bod yn destun dadlau a thrafod brwd ymhlith beirniaid, dilynwyr ac academyddion. Bydd y symposiwm yn dod ag ysgolheigion a chefnogwyr ynghyd, yn ogystal â rhai a fu'n gweithio ar y ffilm ei hun, i edrych ar Eyes Wide Shut ugain mlynedd ar ôl ei rhyddhau. Byddant yn trafod ei heffaith ac yn ystyried ei safle o fewn gwaith Kubrick yn gyffredinol, yn ogystal â'r diwylliant gweledol a chymdeithasol-wleidyddol ehangach.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y digwyddiad: Cofrestrwch trwy gyfleuster talu E-Store UAL
Ariannwyd y digwyddiad yn hael gan Research England, Cymdeithas Astudiaethau America Prydain a Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2019