Y wobr am y 'Chwedl' orau'n cael ei rhoi i Maisie sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor
Cafodd gwobr Uned Ryngwladol UK Higher Education am y 'Chwedl' orau ei rhoi i Maisie Prior sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Maisie yn fyfyrwraig yn Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau Prifysgol Bangor. Enillodd y wobr am ei darn "My feisty bilingual tounge" a hynny oherwydd ei gwreiddioldeb, yr ymdeimlad o bersonoliaeth, strwythur a ffraethineb, yn ogystal â dangos amrywiaeth y profiadau rhyngwladol sydd ar gael.
Mae Gwobrau Blwyddyn Dramor 2015 wedi eu cynllunio i ymhyfrydu mewn myfyrwyr o'r DU sydd wedi treulio amser yn gweithio, yn astudio neu'n gwirfoddoli dramor fel rhan o'u cwrs gradd. Wrth roi sylwadau ar y ffaith bod yr Uned Ryngwladol yn noddi Gwobr Year Abroad Yarn, meddai Anne Marie Graham, Pennaeth Rhaglen Go International yr Uned: "Mae'r gwobrau yma'n ffordd wych i gydnabod y creadigrwydd, y dewrder a'r dyfeisgarwch y mae myfyrwyr yn ei gynnig i ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol."
Yn ogystal â chael postio blog unigryw ar wefan Go International, mae'r Yarn Award yn cynnwys y cyfle i gyflwyno ochr yn ochr ag arbenigwyr ar banel o fyfyrwyr yng Nghynhadledd Go International. Cynhelir y gynhadledd yn Llundain ar 28 Ebrill 2016 ac mae Maisie'n edrych ymlaen yn arw at gael cyflwyno ochr yn ochr â'r arbenigwyr.
Mae Maisie yn 22 oed ac yn wreiddiol o Enderby, Caerlŷr ac mae'r astudio gradd BA Sbaeneg gyda Phrofiad Rhyngwladol. Dywedodd, 'Y profiad rhyngwladol ydy beth sydd wedi golygu fy mod i wedi gallu treulio dwy flynedd dramor fel rhan o fy nghwrs gradd, ac mae'n rhywbeth dw i'n credu sy'n unigryw i Fangor'
Wrth sôn am Fangor, dywedodd: 'Dw i wrth fy modd efo'r teimlad teuluol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau, mae'r darlithwyr yn gyfeillgar iawn a hawdd troi atyn nhw. Dw i hefyd wrth fy modd efo campau awyr agored fel syrffio ac eirafyrddio ac felly fe ges i fy nenu gan yr amgylchedd o gwmpas Bangor yn ogystal â'r cymdeithasau bywiog sydd i'w cael yma am ddim'.