Ydych chi’n brwydro dros annog eich plentyn i ddarllen? Mae cymorth wrth law!
Gall anfodlonrwydd i ddarllen fod yn arwydd clasurol bod gan blentyn dyslecsia, ond gall fod yna arwyddion bach eraill hefyd i godi pryderon rhiant yn ôl Joanna Dunton o Ganolfan Dyslecsia Miles Prifysgol Bangor.
Yn siarad o flaen Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia, (3- 9 Tachwedd) esboniodd therapydd iaith Jo Dunton y gall plant efo dyslecsia cael trafferth efo darllen, sillafu ac ysgrifennu, ond hefyd efo sgiliau cymdeithasol ac mewn meysydd eraill sydd ar yr wyneb yn amherthnasol.
“Gall fod bod y plentyn dyslecsig efo tueddiad i anghofio pethau neu fod braidd yn ddi-drefn,” esbonia Jo Dunton.
“Oherwydd y sialensiau sy’n eu hwynebu, gall plant efo dyslecsia mynd i’w gragen neu colli diddordeb mewn gwaith ysgol, ac, mae ymchwil yn dangos y gallent gael eu bwlio neu eu hynysu’n gymdeithasol oherwydd eu hanawsterau. Gall yr anawsterau arwain at ddiffyg hunan-barch, yn enwedig os nad yw’r plentyn yn deall pam eu bod yn cael trafferth gwneud pethau sy’n ymddangos eu bod yn hawdd i blant eraill eu cyflawni. Gall adnabod y broblem fod yn ddefnyddiol dros ben - fel y gall gosod pethau mewn lle i roi cymorth i’r plentyn dyslecsig oresgyn problemau penodol sy’n eu hwynebu.
Ond nid yw dyslecsia’n negyddol i gyd, mae nifer o bobol efo dyslecsia efo ymwybyddiaeth gofod a thri dimensiwn gwych, ac mae nifer yn dod yn beirianyddion. Mae llefydd lef pencadlys ysbiwyr GCHQ yn cyfri pobol a dyslecsia un eu plith fel y mae’r asiantaeth ofod NASA, felly rhaid anelu am y sêr!
“Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn cael trafferthion darllen, ysgrifennu neu unrhyw broblem addysgol, yna’r lle gyntaf i holi byddai’r ysgol, meddai Jo. “Fodd bynnag, yma yng Nghanolfan Miles Dyslecsia rydym wastad yn barod i siarad efo rhieni a rhoi cyngor, a gallan ddarparu sesiynau ymgynghori i blant a’u rhieni.”
Canllawiau Jo:
- Siaradwch â’ch plentyn – trafodwch eu diwrnod neu eu teimladau. Mae datblygu geirfa wedi cael ei ddangos i gael effaith sylweddol ar ddatblygu sgiliau darllen.
- Edrychwch ar y person yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chanolbwyntio ar anawsterau’r plentyn. Anogwch nhw i ymgymryd â phethau y maent yn dda am wneud gan y bydd hyn yn codi eu hunan-barch.
- Peidiwch â gadael i’r gwaith cartref fod yn faes y gad! Mae ychydig ac yn aml yn well, mae darllen un tudalen neu ymarfer un gair yn well na dim.
- Gellir ymarfer sillafu ar fwrdd gwyn neu efo llythrennau plastig, Trwch ganfod ffordd o’i wneud yn hwyl.
- Does dim rhaid darllen allan o lyfr. Efallai gallech ddefnyddio setiau geiriau i wneud brawddegau, chwarae gem efo geiriau sy’n cyd-fynd neu baru a’i gilydd. Peidiwch gadael i’ch plentyn ei ystyried fel gwaith sydd fwrn ac sydd yn rhaid ei wneud.
- Wrth siopa- gofynnwch i’ch plentyn ddarllen y rhestr siopa neu arwyddion o amgylch y siop. Mae geiriau o’n cwmpas ym mhobman- defnyddiwch nhw fel adnoddau
- Trafodwch unrhyw gonsyrn efo’r ysgol. Gall cydweithio efo’r ysgol arwain at gyd-drefnu’r ymateb i unrhyw anawsterau.
- Gall hunan-drefnu fod yn anhawster allweddol sy’n arwain at lyfrau, cit chwarae, pennau cael eu hanghofio. Anogwch eich plentyn i ddatblygu trefn, holwch ai nofio sydd fory? Cael y cit yn barod heno!
- Anogwch ddefnydd proc i’r cof fel rhestr gwirio, rhestr ‘w wneud’ neu gynllun ysgol. Efallai y byddai bwrdd sialc neu fwrdd gwyn yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio ar gyfer y teulu.
- Cofiwch mai sgiliau yw darllen a sillafu, ac fel bod sgil arall , mae’n rhaid ymarfer yn gyson. Mae sêr pêl-droed, nofio a thenis i gyd yn gorfod ymarfer yn galed i wella’u sgiliau
I ganfod mwy am ddyslecsia neu i drafod unrhyw gonsyrn, mae’r Ganolfan Miles Dyslecsia yn cynnal Diwrnod Agored rhwng 11-2.00 ar 5ed Tachwedd. Mae hyn yn gyfle i bobol taro mewn i ddysgu mwy am y gwasanaethau a gynigir yno, neu gael sgwrs anffurfiol gydag un o’r athrawon arbenigol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2014