Ydych chi wedi ystyried astudio’n ôl-radd ym Mangor?
Ni ellwch gael gormod o gymwysterau ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd. Gall cymhwyster ôl-radd fod o gymorth i wneud i chi sefyll allan ymysg ymgeiswyr am swyddi, agor drysau i gyfleoedd newydd, neu’ch helpu i symud ymlaen o’ch swydd bresennol neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Gyrsiau Ôl-radd ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00.
Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr presennol, ac unrhyw raddedigion sy’n gweithio neu’n byw’n lleol ac sy’n awyddus i astudio ym Mangor, i ymweld â’r Brifysgol a chael gwybod o lygad y ffynnon pa ddewisiadau ar gyfer graddau uwch hyfforddedig ac ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol.
Bydd staff y Swyddfa Derbyniadau Ôl-radd a Chynghorwyr Gyrfaoedd a Chyfleoedd hefyd ar gael i roi cyngor ac arwain darpar ymgeiswyr a myfyrwyr drwy’r broses o wneud cais.
Cynhelir y Ffair yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol. Bydd un o’r rhai a fydd yn cofrestru a dod i’r achlysur yn ennill y wobr ragorol o Apple iPad, gan y bydd enwau pawb fydd yn cofrestru yn mynd i het a thynnir un enw buddugol. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad wrth fynd i wefan y Brifysgol: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor ddod i’r Ffair, a dysgu mwy am y nifer helaeth o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael,” meddai Michael Rogerson, Swyddog Marchnata Ôl-radd.
Yn ogystal, bydd rhai ysgolion megis Gwyddorau Eigion, Seicoleg ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cynnal teithiau o amgylch eu hysgolion, a sgyrsiau ar eu gwahanol feysydd, ar gyfer rhai sydd yn awyddus i gael golwg fwy manwl ar eu cyrsiau a’u hadnoddau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2011