Ym Mhrifysgol Bangor mae argraffiadau cyntaf yn bwysig
Unwaith eto mae Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi yn y 10 uchaf ymysg prifysgolion gwledydd Prydain.
Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd tan ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae arolwg gan YouthSight wedi rhoi Prifysgol Bangor ymysg y 10 uchaf o brifysgolion Prydain o ran yr argraffiadau cyntaf ffafriol y mae myfyrwyr newydd yn eu cael o'r sefydliad.
Dywedir mai un cyfle rydych yn ei gael i wneud argraff gyntaf dda ac mae'r ymchwil gan YouthSight yn tystio i hynny, sy'n awgrymu cysylltiad cryf rhwng argraffiadau cynnar ffafriol myfyrwyr o'u prifysgol a'r nifer is o fyfyrwyr sy'n gadael yn ddiweddarach.
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr):
"Mae Prifysgol Bangor yn enwog am y croeso cynnes mae'n ei roi i'w myfyrwyr. Gall dod i brifysgol am y tro cyntaf fod yn brofiad anodd a brawychus, ond rydym eisiau i'n myfyrwyr gael profiad da, a chynta'n byd y byddant yn ymgartrefu, gorau oll y byddant yn astudio."
Gan Fangor y mae un o'r rhaglenni mwyaf a chryfaf i groesawu a chefnogi myfyrwyr ymysg holl brifysgolion Prydain.
Meddai'r Athro Tully, wrth sôn am y cynllun Arweinwyr Cyfoed:
"Mae ein Harweinwyr Cyfoed ymysg myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn yn rhan wirioneddol bwysig o'n croeso a'n cymorth i ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae'r myfyrwyr yma wedi'u hyfforddi ac maent wrth law i helpu ein myfyrwyr newydd i ymgartrefu. Mae Arweinwyr Cyfoed yn helpu gyda digwyddiadau a gallant ateb cwestiynau, dangos lle mae gwahanol lefydd i fyfyrwyr a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol. Maent yma drwy'r Wythnos Groeso, a thu hwnt i hynny, yn wir am gyhyd y mae eu hangen i weithredu yn y swyddogaeth honno."
"Ein hethos ydi sicrhau bod gofalu am fyfyrwyr yn mynd law yn llaw ag addysgu rhagorol," ychwanegodd.
Yn yr arolwg o dros 10,300 o fyfyrwyr, darganfu YouthSight bod y myfyrwyr hynny a ystyriai bod eu prifysgol yn 'rhagorol' wedi nodi mai ansawdd yr addysgu a chynnwys eu cwrs oedd y ffactorau pwysicaf. Pwysleisiodd myfyrwyr hefyd bwysigrwydd gofal bugeiliol ac roeddent yn canmol prifysgolion oedd â "llawer o bethau wedi'u trefnu i fyfyrwyr newydd", a oedd yn "ymateb yn gyflym i ymholiadau", a rhai oedd yn barod eu cefnogaeth a chyda staff cyfeillgar.
Fis Awst, dangosodd arolwg arall mai Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, yn ôl y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, a bod y Brifysgol yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2014