Ymateb i adroddiad Reid ar ymchwil ac arloesi
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Graeme Reid i’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Jo Rycroft-Malone: “Mae gan Gymru nifer o gryfderau ym meysydd ymchwil ac arloesi ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi meysydd o ragoriaeth, yn ogystal â datblygu meysydd newydd o arbenigedd.
Mae’r adolygiad yn darparu dadansoddiad o’r cryfderau, yr heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael i Gymru feithrin a thyfu ymchwil ac arloesedd yn y wlad, wrth i ni ddynesu at adael yr Undeb Ewropeaidd.
Meddai’r Athro Jo Rycroft-Malone: “Bydd gwneud defnydd da o’r arbenigedd sydd yma mewn ymchwil ac arloesedd yn sicr o fod o fantais i fusnesau, cymunedau a llywodraeth yng Nghymru.
“Rydym eisoes yn gwybod fod prifysgolion megis Bangor yn perfformio yn llawer gwell na’r disgwyl o safbwynt ymchwil ac effaith, a rydym yn gobeithio’n fawr y bydd hyn yn parhau dan unrhyw drefniant newydd a gaiff ei gyflwyno yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad yma.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod yn derbyn argymhellion yr adroddiad mewn egwyddor, ac y byddant yn ystyried sut y gallant gael eu rhoi ar waith ochr yn ochr ag ymatebion i'r ymgynghoriad technegol presennol ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru sydd yn yr arfaeth, ynghyd â'r setliad cyllid ar ôl Brexit ar gyfer cenhedloedd a rhanbarthau'r DU, a chynlluniau Llywodraeth y DU i gydbwyso'r gwariant ar wyddoniaeth ar draws y wlad er mwyn cynyddu twf a chynhyrchiant rhanbarthol.
Dywedodd Julie James AC: “Hoffwn ddiolch i'r Athro Reid am ei waith caled yn cwblhau'r gwaith helaeth hwn. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r panel o ymgynghorwyr nodedig a'i gynorthwyodd e.
“Roeddwn yn falch o ddarllen i'r Athro Reid ganfu fod y maes ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn gryf, ac yn cynnwys nifer o enghreifftiau bod y maes yn cael effaith a llwyddiant ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella'r llwyddiant hwnnw a bod y sector yn ffynnu, wrth inni ymateb i dirlun ymchwil y DU sy'n newid yn gyson ac i ganlyniadau posibl Brexit.
“Ond, rydyn ni'n cydnabod, drwy weithio ar draws sectorau, y gallwn ni wneud mwy i gynyddu amlygrwydd a dylanwad ymchwil yng Nghymru. Felly, byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r argymhelliad i gael presenoldeb penodedig yn Llundain, er mwyn hybu maes ymchwil ac arloesi Cymru ar unwaith.”
Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma: https://gov.wales/docs/det/publications/reid-review-cy.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2018