Ymchwil ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cyrraedd cyfnod canlyniadau
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor a Rhydychen yn dwyn ynghyd canlyniadau astudiaeth pum mlynedd fawr, sydd i'w ddatgelu yn hwyrach eleni, i ba mor effeithiol y gall rhaglen Therapi Gwybyddol sy'n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar fod wrth leihau nifer yr achosion o iselder a thuedd at hunanladdiad ar gyfer pobl sy'n dioddef o iselder hunanladdol rheolaidd.
Bwriad y dulliau sydd wedi’u seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yw dysgu sgiliau ymarferol i bobl sy’n gallu helpu â phroblemau iechyd corfforol a seicolegol a sialensiau parhaus mewn bywyd.
Caiff Ymwybyddiaeth Ofalgar ei diffinio’n aml fel 'talu sylw bwriadol i’n profiadau. Funud wrth funud heb farnu’.
“Mae hyn yn golygu datblygu'r gallu i dalu sylw bwriadol at ein profiad o bryd i bryd. Rydym yn dysgu sut i wrando ar yr hyn sy'n digwydd yn ein meddwl a chorff o ddydd i ddydd heb feirniadu ein profiad. Efallai nad ydych yn meddwl bod budd amlwg yn perthyn i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn rydym yn ei feddwl, yn ei deimlo ac yn ei synhwyro, serch hynny gall dysgu sut mae gwneud hyn mewn ffordd sy’n atal beirniadu a hunan-feirniadu arwain at ganlyniadau rhyfeddol. Mae nifer o bobl wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i gryfder ac adnoddau ynddyn nhw eu hunain i wneud penderfyniadau doethach am eu hiechyd a'u bywyd yn gyffredinol,” esbonia Rebecca Crane o’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor.
Prifysgol Bangor oedd y gyntaf i gyhoeddi canlyniadau hap-dreial ar effeithiolrwydd Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Seiliedig ar Therapi Gwybyddol yn 2000 ac ers hynny, mae pum dreial trwyadl wedi cadarnhau'r canlyniadau cynnar. Mae'r prosiectau ymchwil hyn yn dangos bod Therapi yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar Gwybyddol yn haneru’r raddfa a ddisgwylir o bobl ag iselder rheolaidd yn dioddef pwl pellach. Ers 2004 mae'r dull gweithredu wedi cael ei argymell i'w ddefnyddio yn y Gwasanaeth Iechyd y DU ar gyfer atal iselder gan gorff ymgynghorol y llywodraeth, NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ac Iechyd).
Mae'r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn hyfforddi clinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu cyrsiau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn cynnal ymchwil ar effeithiolrwydd y dull mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar i rieni, i bobol ifanc, i bobl â chanser a’u gofalwyr ac yn y gweithle.
Gwyliwch un o'n athrawon yma ar y BBC yn trafod Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2012