Ymchwil gan Brifysgol Bangor i fynediad i feddyginiaethau at glefydau prin
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor, mae cleifion â chlefydau prin yn aml yn cael profiadau llawn her, sy’n creu anawsterau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd ymchwilwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fod cleifion yn aml yn wynebu anawsterau o ran cael diagnosis i’w cyflwr, mynediad at ofal arbenigol, a bod triniaeth effeithiol ar gael.
Er y cynnydd ers 10 mlynedd yn nifer y meddyginiaethau sydd ar gael i drin clefydau prin, mae mynediad at driniaeth yn broblemus, yn bennaf oherwydd eu costau uchel.
Meddai Siobhan Bourke, sy’n astudio ar gyfer PhD, “Mae’r cyfryngau wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn cyffuriau costus at ganser, ond nid y rhain yw’r unig feddyginiaethau lle ceir anhawster i gael cyllid gan y GIG. Mae ein hymchwilydd wedi cael y gall y rhai sy’n dioddef gan glefydau prin ddisgwyl am flynyddoedd i gael mynediad at foddion.”
“Ar hyn o bryd, mae canllawiau ar gyllido’r meddyginiaethau hyn yn amrywio ar draws y DU, ac rydym yn gobeithio y gallwn, wrth edrych ar ddewisiadau’r cyhoedd o ran cyllido, gynorthwyo i ddylanwadu ar bolisi.”
Mae Siobhan wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu ar yr astudiaeth hon gan bwyso a mesur barn y cyhoedd ar y syniad fod y GIG yn cyllido meddyginiaethau at glefydau prin. Y bwriad yn y pen draw yw i benderfyniadau’r GIG ar gyllido adlewyrchu barn a dewisiadau ehangach pobl ynglŷn â dewisiadau o ran triniaeth.
“Mae hon yn astudiaeth gyffrous iawn,” ychwanegodd, “ac yn gyfle gwych i bobl Bangor roi eu barn am yr ymchwil hon.” Caiff unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan yn y drafodaeth hon gysylltu â Siobhan Bourke trwy e-bost: rarediseases@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2015