Ymchwil gyfranogol i ddiogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth yn Eritrea.
Mae CARIAD, Canolfan Prifysgol Bangor dros Ymchwil Uwch i Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol, i gychwyn ar broject 3-blynedd gwerth €520,000 (£453,000) dan nawdd yr UE, i ddiogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth ffermydd mewn ardaloedd yn Eritrea sy’n dueddol o ddioddef sychder. Bydd CARIAD yn gweithio gyda sefydliadau a ffermwyr lleol i ganfod mathau amgen o gnydau a gwell technegau tyfu, ac i wella cynnyrch a marchnata hadau. Mae Eritrea yn un o ranbarthau tlotaf Affrica ac yn dioddef sychder yn aml. Mae’r amodau hyn yn debygol o waethygu wrth i newid hinsawdd arwain at lawiad mwy anghyson.
Bydd CARIAD yn gweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Amaethyddol a chyda Choleg Amaeth Hamelmalo, sy’n cyfrannu gwybodaeth wyddonol yn Eritrea. Bydd y Corff All-Lywodraeth Vision Eritrea, ynghyd ag Adran Estyniadau’r Weinyddiaeth Amaeth, yn darparu’r rhywogaethau a’r technegau newydd i filoedd o ffermwyr. Darperir rhywfaint o hyfforddiant ar y cyd ag ICRISAT, sef y Sefydliad Rhyngwladol dros Ymchwil i Gnydau ar gyfer y Trofannau Lled Gras.
Meddai Dr Philip Hollington, arweinydd project ar gyfer CARIAD: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ehangu ein gwaith i ardal arall o Ddwyrain Affrica ac, os byddwn mor llwyddiannus ag y buom mewn ardaloedd eraill, bydd yn gwella bywydau nifer fawr o bobl yn sylweddol.”
Meddai Dr Bhasker Raj o ICRISAT: “Bydd y mentrau hyn yn cynnwys ffermwyr yn y gwaith o adnabod, profi a gwerthuso cyltifarau a thechnegau agronomaidd ar gyfer addasu, er mwyn gwella cynnyrch cnydau a sicrhau cyflenwadau bwyd. Mae ICRISAT yn falch o fod yn bartner yn y project newydd hwn i wella bywoliaeth ffermwyr Eritrea.”
Bydd y project newydd yn canfod a lluosogi’r rhywogaethau sydd orau gan ffermwyr o ran y cnydau lleol allweddol: sorgwm, miled perlog a gwygbys, yn ogystal â gwella arferion agronomaidd fel bod cynnyrch cnydau’n fwy dibynadwy, neu’n cyfrannu at gadwraeth pridd neu ddŵr. Bydd hefyd yn darparu hyfforddiant yn y technegau hyn i ffermwyr a staff y sefydliadau Eritreaidd. Bydd sefydlu grwpiau cynhyrchu hadau, o ryw 100 aelod yr un, yn weithgaredd pwysig. Caiff yr aelodau hynny hyfforddiant nid yn unig ym maes cynhyrchu hadau, ond hefyd mewn marchnata a datblygu cynlluniau busnes, sef, yn ôl profiad CARIAD, y cyfrannwr pwysicaf at lwyddiant y cynlluniau hynny.
Noddir y project o Raglen Cydweithrediad Allanol yr UE, a bydd yn adeiladu ar waith presennol a thra llwyddiannus gan CARIAD mewn llawer o wledydd yn Asia ac Affrica. Mae hyn yn golygu bod ffermwyr mewn ardaloedd sych yn gweithio gyda CARIAD a phartneriaid lleol, i ganfod rhywogaethau newydd sy’n addas i’w hanghenion penodol hwy o ran cynnyrch, blas ac amser aeddfedu. Yna, dosberthir y rhain yn eang, a sefydlir systemau cymunedol i ddarparu digon o hadau o ansawdd da i ffermwyr. Yn yr un modd, trwy weithio gyda ffermwyr, mae agronomegwyr CARIAD yn canfod, profi a hyrwyddo technegau risg-isel, syml a rhad sy’n gwneud cnydau’n fwy dibynadwy ac yn gymorth o warchod pridd a dŵr.
Mae’r dulliau hyn eisoes wedi canfod llawer o rywogaethau o wahanol gnydau sydd orau gan ffermwyr, ac wedi cynhyrchu mwy na 2000 o tunelli metrig o hadau yn Ethiopia. Yn India a Nepal, mae astudiaethau dan nawdd y DFID wedi dangos bod rhywogaethau a ganfuwyd wrth ddefnyddio'r dulliau hyn wedi'u mabwysiadu ar raddfa eang, a hynny’n rhoi mwy o sicrwydd i deuluoedd amaethyddol prin o adnoddau ynglŷn â pharhad eu cyflenwadau bwyd. Buont hefyd yn effeithiol iawn o ran cynnal neu gynyddu bioamrywiaeth ar ffermydd, wrth i amrywiaeth ehangach o gnydau gael ei thyfu, a phob un ohonynt mewn cilfachau penodol yn y drefn gnydio.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010