Ymchwil Ieithoedd Modern o Fangor ymysg y gorau yn y DU
Mae ymchwil a gynhyrchwyd gan yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern wedi cael ei rhoi yn drydydd ar ddeg yn y DU yn ei maes pwnc.
Roedd mwyafrif llethol y gwaith a gyflwynodd yr Ysgol i banel y Fframwaith Gwerthuso Ymchwil (REF) ar Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth yn cael ei ystyried naill ai o safon gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar ystod eang o bynciau megis hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol, astudiaethau ar gyfieithu ac astudiaethau cof.
Roedd Pennaeth yr Ysgol, Dr Jonathan Ervine, yn hynod falch o glywed y newyddion: "Mae gan Brifysgol Bangor eisoes enw da iawn am ddarparu amgylchedd dwyieithog i fyfyrwyr astudio ynddo, ac mae'r canlyniadau hyn yn awr yn dangos ei bod hefyd yn sefydliad amlieithog hynod lwyddiannus. Mae'r gwaith a gyfrannodd at y llwyddiant hwn yn adlewyrchu lefel yr arbenigedd ieithyddol a diwylliannol sydd gennym yn ein Hysgol ac mae hyn yn cynnwys ystod o gyd-destunau Ewropeaidd ac an-Ewropeaidd gwahanol.
"Mae'r ymchwil ragorol hon yn cyfoethogi a dylanwadu ar ein dysgu ac mae'n egluro pam yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yr ystyriwyd Bangor yn un o'r deg lle uchaf ym Mhrydain i astudio ieithoedd modern ynddo."
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawn i Ieithoedd Modern ym Mangor gan ei bod wedi cydlynu rhaglen Ieithoedd i Bawb newydd a hynod lwyddiannus y brifysgol. Mae'r rhaglen hon wedi cynyddu nifer y myfyrwyr a'r staff a all gyfathrebu mewn ieithoedd modern. Hefyd gwelwyd ehangu'r rhaglen TILT sy'n ymwneud â darparu hyfforddiant iaith i fusnesau bach a chanolig yng ngogledd orllewin Cymru.
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014