Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor yn helpu i daflu goleuni ar y posibilrwydd o fywyd ar y blaned Gwener yn y gorffennol
Er bod y blaned Gwener heddiw yn lle anial a digroeso iawn, gyda thymheredd yr arwyneb yn ddigon poeth i doddi plwm, mae tystiolaeth ddaearegol, a gefnogir gan efelychiadau model cyfrifiadurol, yn dangos y gallai fod wedi bod llawer oerach biliynau o flynyddoedd yn ôl a bod ganddi gefnfor, ac felly'n debyg iawn i'r Ddaear.
Nid y tymheredd uchel a'r atmosffer cyrydol iawn yn unig sy'n gwneud Gwener yn dra gwahanol i'r Ddaear heddiw. Mae Gwener hefyd yn cylchdroi'n araf iawn, gan gymryd 243 o ddyddiau'r Ddaear i gwblhau un diwrnod Gweneraidd. Fodd bynnag, biliynau o flynyddoedd yn ôl efallai ei bod wedi cylchdroi'n gyflymach, a fyddai wedi helpu i wneud y blaned yn fwy addas i greaduriaid fyw arni.
Mae llanw'n gweithredu i arafu cyfradd cylchdroi planedau oherwydd ffrithiant rhwng cerrynt y llanw a gwely'r môr. Ar y Ddaear heddiw, mae'r arafu hwn yn newid hyd dyddiau o tuag 20 eiliad bob miliwn o flynyddoedd. Mae astudiaeth newydd gan Mattias Green yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a chydweithwyr yn NASA a Phrifysgol Washington wedi mesur yr effaith arafu hon ar y blaned Gwener ymhell yn ôl. Mae eu gwaith yn dangos y byddai llanw cefnfor ar y blaned Gwener wedi bod yn ddigon mawr i arafu cyfradd gylchdroi Gwener o ddegau o ddyddiau Daear bob miliwn o flynyddoedd pe bai Gwener yn cylchdroi bryd hynny'n fwy tebyg i'r hyn mae'r Ddaear yn ei wneud heddiw. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r arafu oherwydd effaith llanw fod wedi arafu Gwener i'w chyflwr cylchdroi presennol mewn 10-50 miliwn o flynyddoedd.
Meddai Dr Green “Mae'r gwaith hwn yn dangos pa mor bwysig y gall llanw fod o ran ailfodelu cylchdro planed, hyd yn oed os nad yw'r cefnfor yn bodoli ond am ychydig gannoedd o filiynau o flynyddoedd, a pha mor allweddol yw'r llanw i alluogi i blaned fedru cynnal bywyd."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019