Ymchwil synhwyro ffrwydron ar waith ym Mangor
Mae Gwyddonwyr yn Ysgol Gemeg Prifysgol Bangor yn gweithio ar dechnoleg synhwyro arloesol y gobeithir ei dreialu mewn meysydd awyr cyn bo hir. Mae grŵp yn yr Ysgol Gemeg yn gweithio fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd o’r enw Nanosecure. Mae’r grŵp yn cynnwys 26 o bartneriaid academaidd a diwydiannol oll yn gweithio tuag at system integreiddiedig a fydd yn synhwyro ffrwydron, cyffuruiau, cemegau ac elfennau biolegol yn yr awyr. Bydd y system hefyd yn gallu diheintio awyr o bio-agents cemegol a biolegol os caiff y rhain eu darganfod. Bydd hyn yn digwydd trwy ei integreiddio gydag unedau awyru adeilad. Un o'r partneriaid yn y consortiwm yw Maes Awyr Schiphol, ble y gobeithir y gellid treialu’r unedau.
Ysgol Gemeg Bangor yw’r sefydliad ymchwil arweiniol yn natblygiad y sensor ffrwydron a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr uned ddarganfod. Mae gwyddonwyr ym Mangor hefyd yn creu’r arwynebau catalytig a gaiff eu defnyddio i ddiheintio'r awyr. Y syniad yw integreiddio’r system gyda mesurau diogelwch presennol mewn meysydd awyr.
“Mae hwn yn faes ymchwil cynhyrfus iawn ar hyn o bryd” meddai Chris Gwenin, o’r Ysgol Gemeg. “Mae’r digwyddiadau diogelwch rhyngwladol diweddar yn dangos bod yna gryn arloesedd yn digwydd wrth greu dyfeisiadau ffrwydrol terfysgol. Gyda’r defnydd o ffrwydron masnachol megis PETN yn cael eu darganfod fel rhan o ddyfeisiadau fel hyn, mae’n amlwg bod mawr angen technoleg synhwyro er mwyn osgoi mwy o wiriadau mewn meysydd awyr fydd felly yn cynyddu'r amseroedd aros i deithwyr.”
Mae gwaith Prifysgol Bangor ar y dechnoleg yn seiliedig ar y defnydd o ensymau all gael eu denu tuag at wahanol sylweddau megis ffrwydron.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010