Ymchwil yn chwilio am ofalwyr 'anweledig'
Credir bod dros 70,000 o bobl gydag anabledd dysgu yn byw yng Nghymru heddiw ond nid yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am fyw nag oddeutu 12,000 ohonynt. Felly mae hyn yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl gydag anabledd dysgu yn byw gyda gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu.
Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd â Mencap Cymru a Chartrefi Cymru, wedi lansio project ymchwil newydd sy'n edrych ar iechyd aelodau o'r teulu sy'n gofalu amdanynt.
Trwy glywed gan ofalwyr sy'n edrych ar ôl perthynas sy'n oedolyn (25 oed neu fwy) gydag anabledd dysgu yng nghartref y teulu, bwriad yr ymchwil yw dysgu mwy am sut beth yw bod yn ofalwr, pa gefnogaeth mae gofalwyr yn ei derbyn gan deulu a ffrindiau, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol i helpu gyda'u rôl gofalu a sut fyddai gofalwyr yn disgrifio eu hiechyd eu hunain.
Meddai'r cydgysylltiwr, Wayne Crocker, Cyfarwyddwr, Mencap Cymru:
"Rydym yn falch iawn ein bod yn cydariannu'r ymchwil pwysig hwn ym Mhrifysgol Bangor gyda Chartrefi Cymru. Mae gofalwyr anffurfiol yn y teulu yn arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r llywodraeth ond beth yw'r gost bersonol iddynt? Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hwn yn dangos y gwir effaith ar ofalwyr a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt ac yn dangos y gefnogaeth i’r sefyllfaoedd byw a gaiff eu cymryd yn ganiataol heb unrhyw gymorth neu dim ond ychydig gan y wladwriaeth
Dywedodd Adrian Roper, Prif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymru:
"Mae Cartrefi Cymru yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn codi proffil am les gofalwyr yn y teulu gan ei fod yn fater pwysig i gomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru."
Cynhelir yr ymchwil gan Jillian Grey yn yr Ysgol Seicoleg.
Meddai Jillian, "Rwyf yn gobeithio defnyddio fy mhrofiad yn gweithio gyda theuluoedd ym maes ymchwil anabledd dysgu ers nifer o flynyddoedd i gael gwell dealltwriaeth o’r pwysau a wynebir yn ddyddiol gan ofalwyr yn y teulu. Caiff eu cyfraniad i ofal cymdeithasol ei danbrisio yn aml."
Gall pobl gymryd rhan trwy naill ai lenwi'r arolwg ar-lein: https://survey.psychology.bangor.ac.uk/iechydgofalwyr
neu gysylltu â'r Ysgol Seicoleg ar 01248 388255 neu drwy e-bost at j.m.grey@bangor.ac.uk
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Jill dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013