Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.
Meddai'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wrth gyhoeddi'r cyllid ychwanegol:
"Mae lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn dorri'r cylch o amddifadedd a thlodi."
Mae ysgolion a chanolfannau dysgu eraill yn derbyn cyllid o'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) am bob disgybl sy'n derbyn prydau bwyd ysgol am ddim, neu sy'n blentyn sy'n derbyn gofal. Gall ysgolion ddefnyddio'r cyllid mewn amryw ffyrdd i daclo effeithiau tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad.
Fe wnaeth yr ymchwil, a oedd yn cynnwys 12 awdurdod lleol ac ardaloedd mwyaf gwledig Cymru, ymchwilio i effeithiau'r cyllid hwn i fynd i'r afael â thlodi, a thlodi gwledig yn arbennig. Mae'n awgrymu hefyd ffyrdd o wella cyrhaeddiad plant.
"Mae amharodrwydd diwylliannol i dderbyn prydau ysgol am ddim mewn ardaloedd gwledig yn cuddio gwir lefelau tlodi, a hefyd yn amddifadu ysgolion o gyllid ychwanegol y mae angen mawr amdano, gan fod cyllid ysgolion yn gysylltiedig â lefelau prydau ysgol am ddim," eglurodd y prif ymchwilydd, Gwilym Siôn ap Gruffudd o'r Ysgol Addysg.
Mae'r ymchwil yn dangos nifer o faterion cymdeithasol cymhleth sy'n cyfuno i effeithio ar fywydau rhieni gan ei gwneud yn anodd iawn iddynt gefnogi addysg eu plentyn.
Meddai Dr Richard Watkins, arweinydd ymchwil a gwerthuso yn GwE:
"Mae tlodi ac ynysu gwledig yn effeithio ar addysg plant a phobl ifanc. Mae'r ymchwil hon, sydd wedi'i seilio ar wybodaeth gan ddisgyblion, prif athrawon a staff allweddol awdurdodau lleol, yn dangos bod yna werth i'r cyllid amddifadedd hwn a bod ysgolion yn gallu gwneud defnydd effeithiol o'r adnodd hwn. Rydym yn awr yn defnyddio darganfyddiadau'r ymchwil hon ar lefel gynllunio i ffurfio llinellau ymholi newydd ynghylch cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn ogystal â chynorthwyo swyddogion GwE i dargedu cyllid yn fwy doeth."
Dyma ddywedodd Yr Athro J. Carl Hughes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) ym Mhrifysgol Bangor:
"Yr hyn sydd mor gyffrous am yr ymchwil hon yw ei bod yn dangos y gall gwasanaethau addysgu, ysgolion ac athrawon gael effaith sylweddol ar ddysgu a lles plant sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig. Gellir gwneud hynny o fewn yr ysgol a thrwy estyn allan a chefnogi'r teulu yn addysg ein plant i gyd. Mae'r cyllid ymchwil cydweithredol gan GwE ac ERW yn helpu i ddangos sut orau y gall y cyllid GDD gael ei dargedu i helpu pob disgybl i gyrraedd eu potensial. Mae'n wych o beth bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r dull gweithredu hwn a'u bod yn gweld pwysigrwydd allweddol ymchwil a thystiolaeth i arwain y ffordd o ddefnyddio arian cyhoeddus fel y gall fod fwyaf effeithiol."
Meddai'r Athro Enlli Thomas, Pennaeth yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae amseriad yr adroddiad hwn wedi bod yn allweddol i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yn ystod cyfnod o ddiwygio enfawr ar addysg yng Nghymru. Ar sail darganfyddiadau'r adroddiad, gall cefnogaeth ariannol barhaus helpu i gefnogi pob plentyn i gyflawni eu potensial academaidd."
Yn awr gall yr adroddiad ymchwil cynhwysfawr, wedi'i seilio ar gyfweliadau â rheolwyr ysgol, arolygon gyda swyddogion awdurdodau lleol a sylwadau gan ddisgyblion, yn ogystal â dadansoddiad ystadegol o ddata cyrhaeddiad bron 33,000 o ddisgyblion, gael ei ddefnyddio gan y consortia gwasanaeth addysgol fel sail i'r cyngor a'r gefnogaeth a gynigir i ysgolion neilltuol i roi sylw i faterion penodol neu i ddatblygu cynlluniau gweithredu newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018