Ymchwil yn Ysbrydoli
Deilliodd sawl cerdd yng nghyfrol newydd Siôn Aled, Meirioli, o’i brofiadau wrth gyflawni gwaith ymchwil gydag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor i ffactorau’n effeithio ar ddefnydd disgyblion ysgol o’r Gymraeg yn gymdeithasol.
Eglura Siôn, “Yn sgil y gwaith ymchwil gydag ysgolion mewn sawl rhan o Gymru, cefais gyfle i ymweld â sawl rhan o’r byd lle mae gwaith arloesol yn digwydd i warchod ac adfywio ieithoedd lleiafrifol”.
Teithiodd Siôn i Diriogaeth y Mohociaid yn Tyendinaga, Ontario, Canada, Iwerddon, yr Alban a Gwlad y Basg. Bu hefyd mewn gweithdy adfer iaith yng Ngwlad Thai, lle bu ei gyfarfyddiad â Doc Wai, a ofnai mai ef fyddai’r bardd olaf i gyfansoddi yn iaith y Nyah Kur, yn ysbrydoliaeth i gerdd.
Cred Siôn bod meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i’r maes cynllunio ieithyddol yma: “Mae’r heriau sy’n wynebu ieithoedd lleiafrifol ledled y byd yn aml yn debyg iawn i’r rhai a wynebwn ninnau yng Nghymru, ac mae cymaint y gallwn ei ddysgu oddi wrth bolisïau ac ymarfer yn y sefyllfaoedd hynny – a chymaint y gallwn ninnau gyfrannu o’n profiad ninnau gyda’r Gymraeg hefyd.”
Dangosodd ymchwil Siôn, gydag ymron i 600 o blant ym Mlynyddoedd 6 a 7 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau’n amrywio’n fawr o safbwynt canran siaradwyr Cymraeg, bod agwedd y plant at yr iaith yn hynod gadarnhaol ond bod diffyg cyfleoedd i’w defnyddio’r tu allan i’r ysgol yn aml yn achos pryder. Prin oedd ymwneud y plant â’r Gymraeg ar y teledu a’r radio ac ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda’r Saesneg yn cael ei gweld fel iaith ‘naturiol’ y cyfryngau newydd.
Meddai Siôn, “O safbwynt agweddau, mae’r ymchwil yn rhoi i ni ddarlun tra gobeithiol, ac mae’r hyn sy’n digwydd o fewn yr ysgolion yn amlwg yn werthfawr – ond mae angen talu llawer mwy o sylw i le’r iaith, ac yn arbennig cyfleoedd i’w defnyddio, yn y gymuned. Mae gennym lawer i’w ddysgu oddi wrth Wlad y Basg, er enghraifft, lle mae proffilio ieithyddol a chynlluniau i normaleiddio’r defnydd o’r Fasgeg ymhlith plant ysgol yn ymdrin â’r ysgol a’i chymuned fel cyfanrwydd. Os ydym am fod ag unrhyw obaith o gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o bobl fydd nid yn unig yn medru’r Gymraeg ond yn ei defnyddio o ddydd i ddydd erbyn 2050, mae’n rhaid i ni ddeffro heddiw i fawredd a chymhlethdod y dasg sydd o’n blaenau a chydnabod y buddsoddiad sylweddol mewn arian ac amser fydd ei angen i lwyddo.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018