Ymchwilio i faterion allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg
Cychwynnodd prosiect ymchwil newydd a fydd yn ceisio canfod paham y mae plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu bod yn amharod defnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol. Yr ymchwilydd fydd y Dr Siôn Aled Owen o Brifysgol Bangor.
Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2011 fod sawl her bwysig yn wynebu’r Gymraeg os yw i barhau fel iaith fyw yn y gymuned i’r dyfodol a rhan o’r ymateb i hynny fu annog datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach. Eto, er gwaethaf y ffaith bod mwy a mwy o rieni’n dewis addysg Gymraeg, ar y lefel gynradd ac uwchradd, i’w plant, mae’r disgyblion yn aml yn parhau’n gyndyn i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau cymdeithasol. Bydd Dr Owen yn ymchwilio i’r rhesymau dros beidio â defnyddio’r iaith a hefyd yn ystyried ffyrdd o oresgyn y bygythiad hwnnw i ddyfodol yr iaith yn yr hirdymor.
Dangosodd Cyfrifiad 2001 fod y dirywiad cyson yn y ganran o bobl a allai siarad Cymraeg wedi ei atal am y tro cyntaf ers cychwyn cofnodi siaradwyr yr iaith ym 1891, gyda’r ganran gyffredinol yn codi o 18.7% ym 1991 i 20.2%, a chofnodi bod mwy na 40% o blant rhwng tair a phymtheg oed yn gallu siarad yr iaith. Ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach, gostyngodd y ganran gyffredinol unwaith eto i 19.1% ac ni welwyd dilyniant i’r cynnydd yn y grŵp oedran 3-15 i’r grŵp oedran nesaf.
“Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu’n gryf mai defnyddio Iaith sy’n sicrhau bod unigolyn yn ei chadw,” meddai Dr Owen o Ysgol Addysg y Brifysgol. “Fodd bynnag, yn ól pob golwg mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau’r canfyddiad y bydd myfyrwyr wrth adael addysg Gymraeg yn aml yn gadael yr iaith hefyd. Mae hynny’n arbennig o amlwg yn y rhannau hynny o Gymru lle nad yw’r Gymraeg yn gyfrwng cyfathrebu naturiol o fewn y gymuned yn gyffredinol, ond nid yw’r broblem yn gyfyngedig i’r ardaloedd hynny ychwaith.”
Aeth Dr Owen ymlaen i ddweud bod yna ysgolion yng Nghymru a oedd yn llwyddo i nofio yn erbyn y llanw a bydd yn ystyried sut y gellid addasu dulliau llwyddiannus yr ysgolion hynny ar gyfer cyd-destunau eraill .Bydd hefyd yn ymchwilio i fethodolegau a ddefnyddiwyd mewn rhannau eraill o’r byd sy’n wynebu heriau tebyg, megis Iwerddon a Gwlad y Basg, ac yn eu gwerthuso.
Bydd ymchwil Dr Owen yn cynnwys trafod á’r disgyblion eu hunain yn unigol ac o fewn grwpiau ffocws i ganfod y rhesymau pam maent yn dewis defnyddio’r Gymraeg neu beidio’r tu hwnt i’r dosbarth. Drwy gydol y prosiect bydd yn cydweithio’n agos ag athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg yn ogystal â cheisio barn a chlywed profiadau rhieni disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg.
Ym marn Dr Owen, “Nid yw’r ormodiaith dweud bod yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar un o’r meysydd astudio mwyaf tyngedfennol o safbwynt sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau ac yn ffynnu fel iaith gymunedol fyw.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014