Ymchwilio i newidiadau i Gefnfor yr Arctig
Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain un o 12 project ymchwil pwysig a wnaeth gais llwyddiannus i gyflawni ymchwil allweddol bwysig yn un o ardaloedd mwyaf gerwin y blaned - sef yr Arctig.
Caiff y gwaith a wneir gan y Brifysgol ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn y Deyrnas Unedig, a Gweinyddiaeth Addysg ac Ymchwil Ffederal yr Almaen (BMBF). Enw'r project yw The Changing Arctic Ocean.
Arweinir y project ymchwil tair blynedd gan Dr Yueng-Djern Lenn, Uwch Ddarlithydd mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a bydd partneriaid a sefydliadau eraill yn cydweithio â Bangor. Nod yr ymchwil yw cynyddu dealltwriaeth o'r modd y gall newidiadau yn ein cefnforoedd effeithio ar swm ffytoplancton a gynhyrchir yng Nghefnfor yr Arctig.
Ar waelod y gadwyn fwyd, mae ffytoplancton yn gynhyrchwyr sylfaenol sy'n cymryd ynni o olau'r haul, gan gloi'r nwy carbon deuocsid (CO2), sy'n achosi cynhesu byd-eang, yn eu cyrff a thynnu CO2 o'r atmosffer wrth wneud hynny. Wrth i'r ffytoplancton gael eu defnyddio yn y gadwyn fwyd, gall peth o'r carbon hwn gael ei symud i'r cefnfor dwfn lle caiff ei storio am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.
Mae gwyddonwyr môr wedi gweld cynnydd mewn cynhyrchu sylfaenol yn yr Arctig yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, ond mae arnynt angen dod i ddeall yn well o ble mae'r maetholion sy'n cynnal y ffytoplancton yn dod, a hefyd sut y gall newidiadau i'r symudiadau dŵr byd-eang hyn effeithio ar y ffytoplancton.
Ar arwyneb Cefnfor yr Arctig ceir haen o ddŵr gweddol groyw - o ganlyniad i rew'n toddi, tra bo'r dyfroedd dyfnach a yrrir i gyfeiriad y Pegwn o Gefnforoedd Iwerydd a'r Môr Tawel yn llawer mwy hallt ac yn cynnwys mwy o faetholion. Pan fo'r cerrynt dyfnach hyn yn cymysgu a dod i'r wyneb yng Nghefnforoedd yr Arctig maent yn darparu'r maetholion ar ffurf nitradau, sy'n cynnal twf ffytoplancton drwy dymor yr haf.
Bydd y project yn monitro newidiadau yng ngheryntau'r cefnfor, drwy fesur y nitradau sy'n dod i fyny i'r haen ar yr wyneb o geryntau dwfn y cefnfor. Gwneir hyn gydag offer wedi'u gosod ar angorfeydd ac un llwyfan drifftio a hynny dros gyfnod o fan leiaf un cylch tymhorol llawn.
Meddai Dr Yueng-Djern Lenn, a baratôdd y cais ymchwil ac sy'n Brif Ymchwilydd y project:
"Nid ydym yn gwybod eto p'un a fydd y cynnydd mewn cynhyrchu sylfaenol yn helpu i liniaru newid hinsawdd neu sut y bydd yn effeithio ar weoedd bwyd yr Arctig. Nid ydym yn gwybod chwaith p'un a fydd yn gallu parhau yn wyneb y newidiadau a ddisgwylir i'r ffordd mae'r dŵr yn symud o amgylch ein planed. Disgwylir i'r ceryntau dwfn pwysig hyn yn y cefnfor newid wrth i'r cefnforoedd gynhesu ac wrth i swm cynyddol o ddŵr croyw ddod i mewn i'r cefnforoedd yn y Pegynau, o ganlyniad i rew môr yn dadmer a dŵr a ollyngir o afonydd. Bydd hyn yn effeithio hefyd ar y ffordd mae'r dyfroedd dwfn a mwy bas yn cymysgu.
"Mae ein hymchwil wedi dangos bod mwy o gymysgu'n digwydd eisoes rhwng dyfroedd ar lethrau Cefnfor yr Arctig, ond ni allwn ragdybio y bydd hyn yr un fath ym mhobman. Rydym yn credu mai'r newidiadau yn y ddeinameg o fewn colofn ddŵr y cefnfor sy'n achosi'r newidiadau rydym yn eu gweld yn y fioleg.
Ychwanegodd: "Mae'n gyffrous medru cydweithio â chymaint o wyddonwyr o wahanol sefydliadau sy'n cefnogi'r project ymchwil hwn."
Ceir mwy o wybodaeth yma am y project.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2018