Ymchwilio i siâp hydrodynameg eiconig glas y dorlan
Mae siâp pigfain eiconig glas y dorlan, sy'n enwog am eu gallu i ddeifio heb wneud sŵn, wedi ysbrydoli dyluniad trenau bwled cyflym. Mae gwyddonwyr wedi bod yn profi siâp pigfain rhai o'r 114 o rywogaethau glas y dorlan a welir ledled y byd, i asesu pa siâp yw'r mwyaf hydrodynameg.
Bu'r biolegydd adar, Dr Kristen Crandell a'r myfyriwr trydedd flwyddyn, Rowan Howe, ym Mhrifysgol Bangor, yn creu modelau printiedig 3D o siapiau pig nifer o rywogaethau glas y dorlan sy'n deifio, yng Nghanolfan Arloesi Pontio y brifysgol.
Mae glas y dorlan yn enwog am eu sblash hydrodynameg a deifio di-sŵn ac roedd Kristen yn awyddus i brofi pigau glas y dorlan yn y labordy. Mae wedi llunio rhestr o'r '10 gorau' o ran y dyluniad mwyaf effeithlon. Roedd y profion labordy yn mesur sut roedd cyflymder y mynediad i'r dŵr yn newid wrth i'r modelau daro'r dŵr, a chafwyd tystiolaeth bod siâp hirach, culach yn fwy effeithlon.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i rywogaethau eraill sy'n deifio fel gwylanwyddau, sy'n enwog am dynnu eu hadenydd yn ôl a 'thrywanu'r' dŵr gyda'u corff cyfan.
Roedd y '3 glas y dorlan gorau' ymhlith y rhywogaethau deifio. Yn ôl y profion, y perfformiwr gorau oedd y pysgotwr coch a gwyrdd, rhywogaeth o fasn yr Amason (Brasil a Feneswela). Yn yr ail safle oedd pysgotwr yr Amason, sy'n gyffredin trwy rannau o Ganol America a De America, ac yn drydydd oedd pysgotwr y traeth, a welir yn Papua Guinea Newydd ac Indonesia yn unig. Roedd glas y dorlan asur, sy'n rhywogaeth frodorol ym Mhrydain ac sydd i'w gweld hefyd ar draws Ewrasia a Gogledd Affrica, yn y chweched safle.
Mae rhai o rywogaethau'r glas y dorlan yn chwilota yn hytrach na deifio am fwyd, felly nid yw eu pigau wedi esblygu i dorri'r dŵr mor esmwyth.
Wrth ymateb i'r cwestiwn pam fod yr ymchwil hwn yn werthfawr, eglurodd Kristen er bod dylunwyr yn defnyddio byd natur fel ysbrydoliaeth a bod siâp pigfain glas y dorlan wedi cael ei ddefnyddio i ail-ddylunio trenau bwled er mwyn dileu taran sonig wrth iddynt gywasgu aer wrth fynd i mewn i dwneli, daeth yr ateb dylunio trwy arsylwi. Ond nid oedd neb wedi dilysu siâp pigfain glas y dorlan dan amodau labordy o'r blaen.
Gall cael gwell dealltwriaeth o sut mae siapiau yn ymddwyn arwain at atebion mwy bio-beirianyddol yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y Royal Society Interface ac roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Prifysgol John Moores Lerpwl.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2019