Ymchwilwyr eisio holi barn pobol ifanc efo diabetes
Mae tîm ymchwil ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd yn awyddus i ddarganfod y ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth am ddiabetes i bobl ifanc sydd â diabetes math 1, ac yn chwilio am bobl ifanc i'w helpu.
Bydd astudiaeth EPIC (Evidence into Practice: Information Counts) yn gofyn i bobl ifanc dan 19 oed, sydd â diabetes math 1, beth sydd orau ganddynt o ran gwybodaeth a’r penderfyniadau maent yn eu gwneud am sut i ofalu am eu hunain. Arweinir y tîm gan yr Athro Jane Noyes ac Anne Williams.
Dywedodd Llinos Spencer, Swyddog Ymchwil EPIC yn y Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r tîm angen siarad yn benodol â phobl ifanc sydd â diabetes math 1, ac sy'n byw oddi wrth eu teuluoedd tra byddant yn astudio mewn Prifysgol. Byddem yn falch iawn o glywed gan rieni neu warcheidwaid neu bobl ifanc 19 oed neu iau, sydd wedi edrych ar ôl eu diabetes math 1 tra roeddent oddi cartref."
Dywedodd Nina Phillips, myfyriwr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae gennyf ddiabetes math 1 ac rwy’n astudio yn y Brifysgol. Rwyf ar hyn o bryd yn cynghori'r tîm EPIC ac rwy’n gwybod, os ydych chi mewn sefyllfa debyg, y bydd eich profiadau yn helpu’r tîm i ddeall yn well sut mae pobl ifanc fel ni yn rheoli ein diabetes. Cysylltwch â Llinos o'r tîm EPIC i gael dweud eich dweud!”
Ariennir y project gan raglen Cyflwyno a Threfnu Gwasanaethau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR-SDO) a bydd yn cael ei gynnal mewn nifer o safleoedd ledled Cymru a Lloegr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu’r project EPIC, cysylltwch â Llinos Spencer ar unwaith ar 07973 116 474 neu l.spencer@bangor.ac.uk Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.epicproject.info.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011