Ymchwilwyr Geiriau/Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn rhan o ddau ddigwyddiad yng nghanol Llundain
Bu’r Darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Helen Abbott a’r Cymrawd Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ffrangeg, Sholto Kynoch yn cyd-gyflwyno sesiwn ar eu cywaith ymchwil sy’n edrych ar berfformio’r gân Ffrangeg yn ddiweddar. Roedd eu cyflwyniad yn rhan o ddigwyddiad ymchwil yn yr Athrofa Ymchwil i Gerddoriaeth (Institute of Music Research) ym Mhrifysgol Llundain, sef ‘Inside Song Performance: Mapping the interior of the performative act’. Yn ystod eu cyflwyniad, bu Helen a Sholto hefyd yn perfformio caneuon gan Villiers a Charpentier.
I gael rhagor o wybodaeth: http://www.songart.co.uk/insidesongperformance.html
Yna, yn dilyn y digwyddiad hwn, ddydd Gwener, 20fed o Fai bydd Helen Abbot, yn cyd-gyflwyno digwyddiad arall ar y gân Ffrangeg, a hynny ar y cyd â Dr Roy Howat, Dr Emily Kilpatrick a myfyrwyr llais o’r Academi Gerdd Frenhinol. Byddant yn edrych ar dri gosodiad ar gân o waith Baudelaire a wnaed gan Gabriel Fauré yn 1870–71, ynghyd â gosodiadau Chabrier a Duparc o ‘L’invitation au voyage’ a wnaed yn 1870. Bydd y sesiwn yn edrych ar y gosodiadau hyn mewn perthynas â’r golygiad newydd o ganeuon Fauré sydd wrthi’n cael ei wneud (prosiect dan arweiniad Dr Roy Howat, ac a ariennir gan yr AHRC), ac yn archwilio ymatebion cyfansoddwyr i farddoniaeth gymhleth Baudelaire ac i’r heriadau y mae’r caneuon yn eu rhoi gerbron y perfformiwr a’r golygydd.
I gael rhagor o wybodaeth: http://www.ram.ac.uk/events?event_id=669 a http://www.ahrc.ac.uk/News/Press/Pages/Baudelaireandthemélodie.aspx
Mae’r ddau ddigwyddiad yn codi o ganlyniad i gyfnod ymchwil Dr Helen Abbott. Cefnogir y gwaith hwn gan yr AHRC.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2011