Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad
Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.
Yn ddiweddar fe wnaeth Gwilym Siôn ap Gruffudd, darlithydd yng Ngholeg Menai sydd ar hyn o bryd yn gorffen ei PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, wahodd Nathan a Sally i drafod eu gwaith gyda chynulleidfa o staff a myfyrwyr yng Ngholeg Menai. Mae Nathan a Sally, ynghyd â myfyriwr ôl-radd, Cai Parri-Jones, hefyd wedi cael eu gwahodd i roi sgwrs am fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru i ddisgyblion yn Ysgol David Hughes, Ysgol Tryfan ac i gynulleidfa yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Mae’r arddangosfa wedi cael sylw eang gan y wasg a’r cyfryngau, yn cynnwys erthyglau yn y wasg Iddewig, BBC Cymru a Radio Manchester, yn ogystal ag ar y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau.
Mae Nathan a Sally wrth eu bodd gyda’r diddordeb yn y gwaith yn lleol a rhyngwladol, a meddent: “Mae’r cynllun yma wedi ysgogi llawer o ddiddordeb ymysg pobl leol, gyda llawer ohonyn nhw’n sôn wrthym am eu hatgofion o ddau deulu Iddewig amlwg, sef y Wartskis a’r Pollacoffs, ac mae’r atgofion yma wedi ychwanegu at ein gwybodaeth am fywyd Iddewig yn y rhanbarth. Mae pobl ifanc wedi rhyfeddu o wybod pa mor hir y mae Iddewon wedi bod yn byw yng Ngogledd Cymru. Bonws annisgwyl oedd y diddordeb rhyngwladol rydym wedi’i weld ymysg achyddion, haneswyr ac arbenigwyr diwylliannol.”
Mae Nathan a Sally yn parhau â’u hymchwil i hanes llafar/hanesion bywyd am bobl Iddewig a rhai heb fod yn Iddewon yng Ngogledd Cymru, ac maent yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod i wybod mwy am y gwaith hwn neu gymryd rhan ynddo.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010