Ymchwilwyr o’r Brifysgol yn ceisio adborth gan ofalwyr hŷn am bobl gyda dementia
Wrth i’n poblogaeth heneiddio gyda phobl hŷn yn dod yn gyfran fwy o’r boblogaeth nag erioed o'r blaen, bydd nifer y bobl yn dioddef o ddementia ym Mhrydain yn sicr o gynyddu'n sylweddol iawn. Bydd angen i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol addasu i wynebu’r pwysau newydd hwn.
Gall pobl 65 oed a hŷn sydd â phrofiad o edrych ar ôl rhywun â dementia gyfrannu at ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan academyddion ym Mhrifysgol Bangor. Mae economegwyr iechyd yno’n ymchwilio i ofynion economaidd gofalu am bobl â dementia. Bydd canlyniadau eu hymchwil yn cyfrannu at siapio polisïau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gwledydd Prydain.
Bydd enwau pawb fydd yn ymateb i’r arolwg erbyn 31/12/11 yn mynd i het a bydd yr enillydd yn cael tocyn Marks and Spencer gwerth £250.
Cynhelir yr arolwg byr gan Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a chydweithwyr fel rhan o broject gyda’r nod o asesu defnyddio dull newydd o fesur ansawdd bywyd i’w ddefnyddio mewn gwerthusiadau economaidd.
Meddai, “Bydd yr arolwg hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ddeall beth sy’n effeithio ar ansawdd bywyd ffrindiau a theulu sy’n gofalu am bobl sy’n dioddef o ddementia. Mae llawer o fesurau presennol yn canolbwyntio ar faterion corfforol, gan fethu â rhoi ystyriaeth ddigonol i’r effeithiau ar les gofalwyr. Gall hynny arwain at beidio â darparu arian digonol i raglenni a fwriedir i gefnogi gofalwyr. Rydym yn ymchwilio i fesur sydd wedi’i gynllunio i roi sylw i effeithiau ehangach yn ymwneud â lles, megis cwmnïaeth ac annibyniaeth.”
“Mae’r arolwg yn cael ei gynnal drwy Brydain gyfan ac rydym yn gobeithio y bydd cymaint â phosibl o bobl yn cymryd rhan.”
Gwahoddir pobl 65 oed a hŷn, sy’n gyfaill neu’n berthynas i rywun sy’n dioddef o ddementia, i gymryd rhan yn yr arolwg a rhannu eu barn a’u profiadau yn ymwneud â gofalu. Gellir mynd at yr arolwg drwy http://www.surveymonkey.com/s/Carersurvey . Mae gwybodaeth bellach neu gopïau papur drwy’r post ar gael gan Carys Jones ar 01248 382483.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011