Ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn dilyn ôl troed Capten Scott
Am flynyddoedd lawer rydym wedi cael ein cyfareddu gan anturiaethau Capten Scott a’r ymdrech arwrol i gyrraedd Pegwn y De daearyddol . Fe gyrhaeddodd Scott, ynghyd â phedwar cydymaith, y Pegwn ar 17 Ionawr 1912, dim ond i ddarganfod bod parti o Norwyaid, dan arweiniad Roald Amundsen, wedi cael y blaen arnynt. Bu farw Scott a’i gymdeithion ar y daith yn ôl mewn tywydd a oedd yn eithriadol o wael o ystyried yr adeg o'r flwyddyn.
Gan mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i archwilio a chael ein swyno gan y Rhanbarthau Pegynol. Mae llawer o lyfrau, ffilmiau a rhaglenni dogfen wedi canolbwyntio ar y rhanbarthau hyn, yn fwyaf diweddar cyfres hynod boblogaidd y BBC, Frozen Planet. Cyflwynydd y gyfres hon oedd Syr David Attenborough, un o Raddedigion er Anrhydedd Prifysgol Bangor.
Dros y blynyddoedd, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ymchwilio i’r Rhanbarthau Pegynol a’u hastudio. Yn nyddiau Scott, byddai wedi bod yn gwbl annerbyniol i ferched fentro i fannau mor erwin. Yma, fodd bynnag, rydym yn edrych ar dair gwyddonydd o Brifysgol Bangor y mae eu hymchwil wedi eu harwain i’r rhanbarthau hyn.
Mae Dr Yueng-Djern Lenn yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ac mae’n ymchwilio i ffiseg cefnforoedd pegynol. Yn y cefnforoedd hyn y gwelir y newidiadau mwyaf a briodolir i gynhesu byd-eang. Ymbelydredd solar yw’r grym y tu ôl i’n system hinsawdd, gyda 90% ohono’n cael ei amsugno gan foroedd y byd. Mae hyn yn arwain at ddŵr cynnes yn nes i’r wyneb gyda dŵr oerach yn nyfnderoedd y moroedd. Mae'r gwres yn cael ei gludo gan geryntau cefnforol mawr, megis Llif y Gwlff, o'r cyhydedd i’r cefnforoedd pegynol. Yno mae llawer yn cael ei golli i'r atmosffer, gan greu dŵr oer trwchus ar yr wyneb sy'n suddo, gan arwain at gylchrediad gwrthdroadol sy'n gweithredu i gymysgu gwahanol fathau o ddŵr drwy’r cefnfor i gyd. Y prosesau sy’n gyrru’r cymysgu dyfroedd hyn sydd o ddiddordeb i Yueng-Dern.
Ymwelodd Yueng-Djern â Phenrhyn yr Antarctig yn 2009. "Mae'r teimlad o anelu am y de yn arbennig iawn ac mae’ch disgwyliadau’n codi fel mae’r tymheredd yn gostwng a phan welwch rywogaethau gwahanol o adar môr yn ymddangos. Mae'n anodd cyfleu mewn geiriau eich teimladau wrth i chi wynebu’r cyfandir gwyn ysblennydd ac mae’n hawdd deall sut yr atynnwyd Scott i'w archwilio. Os cewch y fraint o ymweld yn ystod y gwanwyn a'r haf , byddwch yn rhyfeddu at yr amrywiaeth a'r doreth o fywyd gwyllt ar geir ar y tir ac yn y dŵr. Er mai tirwedd diffaith at ei gilydd sydd yma, mae codiad a machlud haul yn paentio tirwedd noeth yr eira a’r rhew â gwawr goch, gan roi ymdeimlad o gynhesrwydd i’r cyfandir oeraidd. Mae’ch ymdeimlad o unigedd a phellter oddi wrth wareiddiad yn dyfnhau bob profiad newydd ac yn eich tynnu yn ôl dro ar ôl tro. "
Sŵolegydd o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yw Dr Nia Whiteley. Mae ganddi ddiddordeb sut mae rhywogaethau môr yr Antarctig yn gallu ymdopi â bywyd yn yr oerni, a sut y gallant gael eu bygwth gan gynhesu byd-eang. Mae wedi astudio amrywiaeth eang o anifeiliaid, o’r isopod mawr, sy'n edrych fel crachen ludw danfor enfawr, i bysgod yr Antarctig. Mae Nia a'i chydweithwyr wedi archwilio gwahanol agweddau ar eu bioleg, gan ddarganfod bod yr isopod mawr yn cyflawni ei arferion dyddiol yn araf iawn ar wely'r môr pan mae tymheredd y dŵr bron â bod yn rhewi. Mae’n ymddangos fod pysgod yr Antarctig yn dangos ymateb i straen yn wahanol i fertebratau eraill ac mae ganddynt ffordd anarferol o reoli cyfradd curiad y galon a phwysedd gwaed. Mae'r arbenigeddau yma’n awgrymu bod rhywogaethau môr yr Antarctig yn sensitif iawn i'r cynnydd yn nhymheredd dŵr môr a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Byddent yn marw mewn tymheredd o tua 4° C, sydd tua’r un tymheredd ag oergell yn y eich cartref.
Mae Nia bellach wedi troi ei sylw at organebau tebyg i ferdys, sy’n byw yn nes at y pegwn gyferbyn yn yr Arctig, er mwyn deall sut y gall ymaddasiadau arbennig i wrthsefyll oerni ddylanwadu ar allu creaduriaid i oroesi mewn byd sy’n cynhesu. Mae’n bosib hefyd cymharu rhywogaethau sy'n byw yn yr Arctig â rhywogaethau tebyg iawn iddynt sy’n byw mewn mannau cynhesach, fel Cymru.
Mae Dr Paula Roberts o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi cydweithio sawl gwaith ag Arolwg Antarctig Prydain ar brojectau ymchwil pegynol sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddeall cylchred maetholion planhigion mewn priddoedd pegynol. Oherwydd yr oerni eithriadol, dim ond ar ymylon Antarctica y ceir prosesau planhigion a phridd. “Mae'r amodau hinsoddol hyn yn golygu mai nifer cyfyngedig o ficro-organebau a rhywogaethau planhigion sydd yno, ac mae’r cyfyngiad yma yn ei gwneud yn haws i ni ddeall y prosesau cymhleth sy'n ymwneud ag ailgylchu carbon a nitrogen o foleciwlau mawr a chymhleth yn ffurfiau symlach fel bod planhigion a micro-organebau’r pridd yn gallu eu defnyddio i dyfu,” eglurodd.
“Mae ein hymchwil yn y ddau begwn wedi ein helpu i ddeall yr ecosystemau microbaidd sy'n bodoli yn y priddoedd yma gyda’u maetholion gwael ac mae wedi dangos sut y gall planhigion sy'n byw yn yr ecosystemau yma ddefnyddio ffynonellau maetholion mwy cymhleth nag a feddyliwyd o’r blaen.”
Ar hyn o bryd mae Paula yn cymryd rhan mewn project ymchwil ar Ynys Signy yn yr Antarctig ac mae ganddi brojectau ymchwil hefyd ar safleoedd maes yn yr Arctig. Ynghyd a’i myfyrwyr PhD, mae’n astudio effeithiau y mae newidiadau i’r hinsawdd yn yr Arctig yn eu cael ar ymddatodiad gweddillion planhigion cymhleth.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2012