Ymchwilwyr yn cyfarfod yn Iwerddon i drafod effaith newid yn yr hinsawdd ar bysgodfeydd pysgod cregyn
Yn ddiweddar cyfarfu ymchwilwyr SUSFISH o Gymru ac Iwerddon yng Ngholeg y Brifysgol Cork i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch pysgodfeydd pysgod cregyn masnachol ym Môr Iwerddon. Mae Prifysgol Bangor yn arwain y project cydweithredol hwn, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n cynnull ynghyd arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe a Choleg y Brifysgol Cork yn Iwerddon.
Yn ystod y cyfarfod trafododd yr ymchwilwyr ganfyddiadau cyfredol mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys statws afiechydon a genetig poblogaethau cocos, cregyn bylchog, cregyn gleision a chrancod; effeithiau asideiddio a chynhesu’r môr ar ffisioleg ac iechyd cregyn gleision a chrancod; effeithiau posib afiechydon newydd mewn pysgod cregyn; gwasgariad larfau ar draws Môr Iwerddon a sosioeconomeg y pysgodfeydd pysgod cregyn ar draws y rhanbarth.
Dr Shelagh Malham o’r Ganolfan Gwyddorau Cymhwysol y Môr ym Mhrifysgol Bangor yw cydlynydd project SUSFISH a hi a arweiniodd y cyfarfod dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Nododd: “Mae’r project hwn yn arddangos pwysigrwydd integreiddio ar draws disgyblaethau a ffiniau. Mae ein cyfarfod wedi pwysleisio ymhellach werth cydweithredu wrth ddatblygu strategaethau rheoli i adnodd naturiol cyffredin megis Môr Iwerddon. “
Bwriad SUSFISH yw llunio canllawiau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y dyfodol a pholisi’r diwydiant pysgodfeydd yn Iwerddon a Chymru dros y 50-100 mlynedd nesaf. Gwneir hyn trwy asesu effeithiau newid yn yr hinsawdd, trwy fodelau eigioneg, ar gynnyrch pysgod cregyn ym Môr Iwerddon. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.susfish.com <http://www.susfish.com>.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012