Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC
Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu’r Gynulleidfa yn #newsHack: Languge Technology y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog er mwyn manteisio ar newyddion a gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, a darllen cynnwys mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
Yn ei sylwadau agoriadol i’r hacathon, cyfeiriodd Robin Pembroke, pennaeth Cynnyrch Newyddion a Thywydd Ar-lein y BBC at y nodwedd Vocab a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith fel enghraifft o’r cynnyrch arloesol roeddynt am ei greu. Yn ystod y ddau ddiwrnod yno, ehangodd Dewi Bryn Jones gyda chymorth Jack Hanigan Popp, James Owen, Robin Moore a Rhodri ap Dyfrig o’r BBC ar Vocab, sef nodwedd sy’n galluogi dysgwyr neu bobl ansicr o’u Cymraeg i hofran llygoden dros air ar wefan megis un BBC Cymru neu Golwg360, a chael cyfieithiad Saesneg o’r gair. Mewn project o’r enw ‘Vocab for Video’ datblygodd allu Vocab i gynorthwyo defnyddwyr i ddeall is-deitlau Cymraeg a/neu Saesneg. Defnyddiwyd dwy enghraifft o erthygl newyddion BBC - un o Newyddion 9 am y darganfyddiad diweddar o donnau disgyrchiant, a’r llall o fideo Saesneg gydag isdeitlau Iwcraneg. Roedd y chwaraeydd newydd yn gallu dangos nid yn unig is-deitlau mewn dwy iaith ond hefyd yn defnyddio isadeiledd Vocab i allu canfod prifeiriau er mwyn dangos cofnodion geiriadurol yn unig wrth i’r sain chwarae. Roedd gwelliannau arbrofol newydd i Vocab yn gallu rhoi sgôr drwy ddefnyddio ystadegau o gorpws Cysill Ar-lein yr Uned a logiau defnyddio Vocab ar wefan CymruFyw. Llwyddodd y demo i dangos yn yr erthygl newydd Gymraeg i ganfod, cydnabod a dangos cofnod geiriadurol ‘tonnau disgyrchol’ ar yr adeg gywir i helpu gwylwyr i ddeall ‘gravitational waves’. Bydd hwn yn ddull awtomatig i allu dewis ymlaen llaw pa gofnodion geiriadurol fydd yn ymddangos ar y sgrin. Yn nodwedd ychwanegol, roedd y chwaraeydd yn cynorthwyo dysgwyr drwy ganiatáu arafu’r fideo er mwyn rhoi cyfle i ddarllen yr is-deitlau yn llawn.
Dywedodd Dewi Bryn Jones “Roedd y digwyddiad yn agoriad llygad i mi gyda chymaint o syniadau da yno. Y gobaith yn awr ydi adeiladu ar y demo ac ymestyn Vocab ar gyfer fideos ac ar gyfer parau iaith eraill. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi ennill y wobr.” Ategwyd hyn gan Rhodri ap Dyfrig, Cymru Fyw: “Roedd pawb yn Cymru Fyw yn falch iawn ein bod ni wedi ennill, a bod yna sylw teilwng i’r gwaith blaengar sy’n cael ei wneud gyda thechnoleg iaith ymarferol yma yng Nghymru”. Llongyfarchwyd y tîm hefyd gan Robin Moore, Pennaeth Arloesedd a Stiwdio Gydgysylltiedig BBC Cymru Ar-lein a Dysgu: “Ymdrech wych, diolch i Dewi, Jack, James a Rhodri.” Y gobaith yn awr yw y bydd modd adeiladu ar y gwaith hwn i gefnogi fideo a pharau iaith eraill y tu hwnt i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2016