Ymchwilydd o Fangor yn mynd i ddysgu Cemeg i Affrica
Bydd cynorthwywr ymchwil o Brifysgol Bangor yn mynd ar daith arbennig iawn i Affrica i ddysgu cemeg cyn bo hir. Bydd Dr Matthew Lloyd Davies, sy'n dod o Gastell-nedd ac sy'n Gymrawd Trosglwyddo Technoleg SPECIFIC, yn arwain tîm o wyddonwyr o Brydain a De Affrica mewn cyfres o weithdai cemeg yn Ne Affrica.
Matthew yw arweinydd y project “Catching the Light with the Rainbow Nation”. Diben y project yw gwneud cemeg yn fwy poblogaidd a chyfarwydd ym Mafikeng a Durban. Cyllidir y project gan SPECIFIC, sef consortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, Tata Steel yw'r prif bartner diwydiannol. Cyllidir y consortiwm gan EPSRC, Technology Strategy Board a Llywodraeth Cymru.
Bydd y project yn cynnwys cyfres o 25 o weithdai i ysgolion ynghyd â darlithoedd fydd yn trafod ac yn arddangos cemeg, golau a lliw. Cynhelir gweithdai ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal i ysgolion yn y cyffiniau ac yn ysgol uwchradd Mafikeng ar y cyd â'r elusen SOS Africa. Disgwylir y bydd dros fil o blant rhwng 3 a 18 oed yn cymryd rhan yn y gweithdai.
Mae Matthew wedi bod yn gysylltiedig â'r elusen SOS Africa ers nifer o flynyddoedd a chafodd y fraint y llynedd o gario'r fflam Olympaidd i gydnabod ei waith gyda'r elusen ac am ei ymroddiad i hybu gwyddoniaeth.
Dywed Matthew: "Mae'r elusen SOS Africa yn ceisio helpu plant difreintiedig ym maestrefi Affrica trwy gyllido eu haddysg a gofalu amdanynt. Mae'r elusen yn canolbwyntio ar rymuso plant trwy addysg ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n credu'n gryf ynddo."
"Nod y project allymestyn hwn yw ymwneud â nifer fawr o blant ysgol a chymunedau ledled De Affrica er mwyn gwneud cemeg, a gwyddoniaeth yn gyffredinol, yn fwy poblogaidd a chyfarwydd iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd y project yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu diddordeb mewn cemeg a brwdfrydedd am y pwnc mewn ysgolion a chymunedau ym Mafikeng a Durban.
Bydd y gweithdai a gynigir yn cynnwys rhai ar haul a thrydan; cynhyrchu celloedd solar o ffrwythau wedi'u sensiteiddio â lliwur a deunyddiau pob dydd; byd cyfareddol cemeg lliw; ffotograffiaeth "cyanotype"; a golau, y sbectrwm a lliw.
Erthyglau/fideo perthnasol:
Prifysgol yn chwarae rhan wrth gludo’r Ffagl Olypmaidd ar ei thaith
Taith gyfnewid y Ffagl Olympaidd – Matthew Davies (fideo)
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2013