Ymddangosiad Ail Rownd i Dîm University Challenge Prifysgol Bangor
Wedi iddynt guro Prifysgol Aberystwyth o 230 o bwyntiau i 110 yn rownd gyntaf y gyfres University Challenge: y cwis teledu mwyaf anodd, mae Tîm Prifysgol Bangor bellach yn yr ail rownd sydd i’w ddarlledu nos Lun 25 Tachwedd am 8.00.
Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: “Cyrhaeddon ni’r rownd gynderfynol y llynedd ac felly mae fy sylw wedi hoelio i’r teledu ar gyfer y gyfres hon. Fel pob tro, rwy’n sicr y bydd y Tîm yn ein gwneud yn falch ohonynt- a beth bynnag sy’n digwydd yn y gyfres, fe guro ni Aberystwyth, ein hen elynion cyfeillgar yn y rownd gyntaf!”
Tîm eleni yw: Catriona Coutts (capten), Owain Wyn Jones, Daisy Le Helloco ac Anna Johnson, gyda Tom White fel aelod wrth gefn a Rhodri’r Ddraig fel masgot!
Mae Capten y Tîm, Catriona Coutts, yn hanu o’r Gaerwen, Ynys Môn, ac yn 24 oed. Mae hi’n astudio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Meddai Catriona, “Roedd cymryd rhan yn brofiad gwych; yn gynhyrfus, yn frawychus a hefyd yn swrreal, fel ei gilydd! Roedd hefyd yn ddiddorol gweld sut roedd pethau’n gweithio yn y stiwdio. Roedd pawb oedd yn gweithio ar y rhaglen yn ffeind iawn ac yn ymdrechu i’r eithaf i wneud i ni deimlo’n gartrefol.”
Dyma aelodau eraill y tîm: Owain Wyn Jones, sy’n 26 oed ac yn astudio ar gyfer Doethuriaeth yn Hanes Cymru’r Canol Oesoedd. Mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn dod o Abertawe. Mae Daisy Le Helloco yn 25 a hefyd yn astudio ar gyfer PhD, ei phwnc hi yw Llenyddiaeth Saesneg. Mae Daisy yn gyn-ddisgybl o Ysgol Thomas Hardye, Dorchester ac yn dod o’r dref. Mae Anna Johnson, 22, yn astudio ar gyfer gradd gyntaf a fydd yn arwain at Radd meistr mewn Bioleg Môr. Mae hi’n dod o Chippenham ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Abbeyfield.
Mae Tom White, yr aelod wrth gefn yn 21 ac yn astudio ar gyfer gradd Meistr trwy ymchwil mewn Ecoleg. Mae’n gyn-ddisgybl o Academi Wayland ac yn gyn-fyfyriwr o Goleg Chweched Dosbarth Swaffham. Mae’n dod o East Wretham.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2013