Ymgynghoriad ar ddatblygu Strategaeth Ystadau
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal ymgynghoriad fel rhan o gynlluniau i ddatblygu strategaeth ystadau newydd am y deng mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro: “Mae ystâd y Brifysgol yn cynnwys tir a rhyw 126 o adeiladau sydd wedi'u gwasgaru ar draws nifer o leoliadau, gyda chnewyllyn y Brifysgol wedi'i leoli yn agos i ganol dinas Bangor ac yn cynnwys Ffordd y Coleg, Pontio a safle Ffordd Deiniol. Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithredu o nifer o safleoedd y tu allan i'r ddinas, gan gynnwys Wrecsam, Gaerwen ac Abergwyngregyn.
“Dros y deng mlynedd nesaf, mae'r brifysgol yn ystyried lleihau maint ei hystâd er mwyn gwella safon yr adeiladau, gwneud yr ystâd yn fwy cynaliadwy, a lleihau costau tra'n gwella profiad myfyrwyr, staff ac ymwelwyr.”
Ymhlith yr opsiynau dan sylw y mae symud o Stryd y Deon ac o safle’r Normal ym Mangor, prynu nifer fechan o adeiladau newydd, a pheth ailddatblygu.
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae'n hanfodol bod ein hystâd yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol, ac mae'n rhaid i ni ddarparu cyfleusterau i'n staff a'n myfyrwyr i weithio ac astudio sy'n addas at y dibenion hynny.
“Mae gennym ormod o adeiladau anaddas. Ein nod yw datblygu strategaeth i wella cyflwr cyffredinol ac addasrwydd ein hadeiladau i ddiwallu anghenion y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.”
Mae'r Brifysgol wedi paratoi dogfen ymgynghori i'w thrafod gyda rhanddeiliaid. Yna, bydd cynllun cyflawni manwl wedi'i gostio'n llawn yn cael ei ddatblygu a'i weithredu dros gyfnod 2020-2030 y cynllun hwn.
Meddai'r Athro Tully: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lunio dyfodol ystâd y brifysgol ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt. Edrychwn ymlaen at glywed barn staff, myfyrwyr, y gymuned leol a rhanddeiliaid ar y mater pwysig hwn.”
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019