Ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd gan Brifysgol Bangor yn ennill gwobr Athena SWAN
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr efydd dan Siarter Athena SWAN ar gyfer Menywod mewn Gwyddoniaeth. Mae gwobrau Athena SWAN yn cydnabod ymroddiad a llwyddiant wrth ddatblygu arferion i gefnogi gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) yn y byd academaidd.
Er mwyn ennill y wobr Efydd Sefydliadol mae’r Brifysgol yn ymrwymo i chwe egwyddor y Siarter drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, yr angen am newid diwylliannol o fewn sefydliad a chydnabod rhai o'r problemau sy'n wynebu menywod mewn sectorau STEMM.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor: "Mae'r prosiect Athena SWAN wedi cael cefnogaeth lawn gan Bwyllgor Gweithredu’r Brifysgol ac mae'r wobr yn lledaenu enw da'r Brifysgol mewn ymchwil ac addysgu mewn gwyddoniaeth. Mae'r wobr hefyd yn dangos amcan y Brifysgol i sicrhau cyfranogiad a chyfraniad yr holl staff".
Mae mentrau Athena SWAN ar draws y Brifysgol yn cynnwys meithrin canllawiau datblygu gyrfa a gwe-dudalen datblygu gyrfa i staff, a datblygu mentora merched yn y Brifysgol ymhellach drwy roi cyhoeddusrwydd i'r Cynllun Mentora Menywod mewn Prifysgol ac archwilio’r potensial o fentora grŵp ar gyfer academyddion benywaidd gyrfa gynnar.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015