Ymuno â Enactus UK yn galluogi i fyfyrwyr y Brifysgol ymwneud ag entrepreuriaeth gymdeithasol
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi ei bod wedi ymuno â'r sefydliad Enactus byd-eang drwy danysgrifio i raglen Enactus UK.
Mae'r rhaglen Enactus yn galluogi i fyfyrwyr prifysgol ymwneud ag entrepreneuriaeth gymdeithasol, lle cynllunnir projectau a all wella bywydau pobl mewn cymunedau.
“Mae Enactus ym manteisio ar gryfderau Prifysgol Bangor” meddai'r Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes.
“Gallwn olrhain ein tarddiad yn ôl i enghraifft gynnar o entrepreneuriaeth gymdeithasol, pan oedd y gymdeithas leol ym Mangor yn cefnogi sefydlu coleg yma. Mae'r cysyniad hwn o drawsnewid drwy weithredu cymdeithasol ar y cyd yn parhau'n werth craidd Prifysgol Bangor, ac mae'n bleser gennym gefnogi ein myfyrwyr wrth iddynt sefydlu Enactus Bangor”.
Mae'r ymateb yr ydym wedi ei gael gan fyfyrwyr wedi bod yn rhyfeddol” meddai Aaron John, arweinydd myfyrwyr tîm Enactus Bangor sydd newydd ei sefydlu.
“Ers mis Hydref, mae dros 50 o fyfyrwyr eisoes wedi dod yn rhan o'r rhaglen, ac rydym ni'n gweithio ar brojectau cyffrous mewn meysydd fel dosbarthu bwyd a gweithgynhyrchu cynaliadwy. Rydym ni hefyd wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y Brifysgol, gan Santander Universities a chan aelodau'r gymuned leol yma yn ardal Bangor”
Sefydliad rhyngwladol dielw yw Enactus sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli myfyrwyr i wella'r byd drwy weithredu entrepreneuraidd. Mae'n darparu llwyfan i dimau o fyfyrwyr prifysgol neilltuol greu projectau datblygu cymunedol sy'n rhoi dyfeisgarwch a doniau pobl eu hunain wrth wraidd gwella eu bywoliaeth. Mae myfyrwyr yn cael eu harwain gan addysgwyr a'u cefnogi gan arweinwyr busnes, ac yn cymryd y math o ddull gweithredu entrepreneuraidd sy'n grymuso pobl i fod yn rhan o'u llwyddiant eu hunain. Mae gan y projectau a wneir botensial i drawsnewid bywydau'r cymunedau a wasanaethir, ac yn eu tro, fywydau myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu'n arweinwyr mwy effeithiol, sy'n cael eu symbylu gan werthoedd.
“Mae'n bleser gennym groesawu Prifysgol Bangor fel aelod o Enactus UK” meddai Andrew Bacon, Prif Weithredwr Enactus UK.
“Mae brwdfrydedd yr arweinwyr myfyrwyr wedi creu argraff arnom yn arbennig, ynghyd â nifer y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn cyn lleied o amser. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer llwyddiant Enactus Bangor”
Ym Mhrydain, mae dros 2,800 o fyfyrwyr prifysgol yn ymwneud â chynllunio a chynnal amrywiaeth o brojectau entrepreneuriaeth gymdeithasol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau bron i 60,000 o bobol ym Mhrydain ac mewn gwledydd sy'n datblygu. Y llynedd, yn Johannesburg, bu i'r tîm myfyrwyr o Brifysgol Southampton ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd Enactus, lle'r oedd 1700 o brifysgolion o 36 o wledydd yn cystadlu. Mae eu projectau yn ceisio darparu atebion hirdymor i broblemau glanweithdra, ansawdd dŵr, entrepreneuriaeth ac addysg yn Kenya.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2016