Ymweliad ag UDA i ymchwilio i Kubrick – un o gyfarwyddwyr ffilmiau gorau America ar ôl y Rhyfel
Mae Dr Nathan Abrams, Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi ennill Cymrodoriaeth Sefydliad Dorot yng Nghanolfan Ymchwil Dyniaethau Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin – cymrodoriaeth bwysig ac enwog yn rhyngwladol, y mae cystadleuaeth ffyrnig amdani.
Mae'r Gymrodoriaeth yn rhoi cefnogaeth ariannol, gofod swyddfa a mynediad i gyfleusterau'r Brifysgol, er mwyn ymchwilio i awduron Iddewig a phynciau diwylliannol perthnasol gan ddefnyddio casgliadau'r Ganolfan.
Bydd Dr Abrams yn defnyddio'r archifau er mwyn gweithio ar ei broject ar Stanley Kubrick (1928-1999), cyfarwyddwr ffilmiau gorau America ar ôl y rhyfel o bosib, project a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig.
Mae'n ymchwilio i'r seiliau deallusol, crefyddol, ethnig a moesol oedd yn sylfaen i weledigaeth ddeallusol ac esthetig Kubrick, ffigwr arloesol mewn ffilm ar ôl y rhyfel. Mae hefyd yn ymchwilio i effaith profiad personol ar agwedd ddeallusol er mwyn darlunio presenoldeb cynnwys a meddwl Iddewig sylweddol yn ffilmiau Kubrick, er eu bod yn ymddangosiadol rydd o gyfeiriadaeth ethnig, a bod cyfeiriadau penodol at ddiwylliant a phrofiad hanesyddol yr Iddewon yn amlwg absennol.
Yn benodol, bydd Dr Adams yn edrych ar gofnodion y nofelydd, y bywgraffydd a'r sgriptwraig Diane Johnson, a ysgrifennodd sgript y ffilm The Shining (1980) ar y cyd gyda Stanley Kubrick. Bydd hefyd yn edrych ar ffeiliau Anthony Burgess, yr awdur a ysgrifennodd y nofel A Clockwork Orange, nofel y gwnaed ffilm ddadleuol ohoni gan Kubrick yn 1972.
Dywedodd Dr Adams, "Dwi wrth fy modd o fod wedi ennill y wobr hon. Gan fod y deunyddiau archifol gwerthfawr hyn ym meddiant Canolfan Ymchwil Dyniaethau Harry Ransom, bydd yn hollbwysig er mwyn imi gael ehangu maes fy ymchwil."
Gellir cael mwy o wybodaeth am y Ganolfan yma:
http://www.hrc.utexas.edu/about/mission/
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2013