Ymweliad gan Fyfyrwyr Nodedig o America â Phrifysgol Bangor, i astudio diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol Cymru
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor groesawu wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru mewn Sefydliad Haf newydd arloesol.
Mae un o sefydliadau addysgol mwyaf clodfawr y DU-UDA, sef Comisiwn Fulbright, wedi penodi Prifysgol Bangor i gynnal Sefydliad Haf cyntaf Fulbright yng Nghymru, ochr yn ochr â Phrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth.
Rhwng 9 a 23 Gorffennaf, bydd israddedigion o America yn treulio pythefnos ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Dewiswyd y myfyrwyr trwy gystadleuaeth, o Brifysgolion ar draws UDA, o Seattle i Dde Fflorida.
Tra byddant ym Mangor, bydd y myfyrwyr yn astudio’r digwyddiadau, y lleoedd a’r bobl sydd wedi ffurfio Cymru, ynghyd â’r dylanwad allweddol a gafodd diwydiant arnynt i gyd. Byddant yn archwilio effaith diwydiannau megis twristiaeth, mwyngloddio llechi ac amaeth ar yr ucheldiroedd, a’r modd y gall cenedl fach gynnal ei hunaniaeth mewn cyfnod o fyd-gyfannu.
Mae pob rhan o’r cwrs yn cynnwys gwaith cwrs academaidd, digwyddiadau diwylliannol ac ymweliadau â safleoedd hanesyddol er mwyn cael profiad a dealltwriaeth o wahanol ranbarthau Cymru. Mae’r holl Brifysgolion dan sylw wedi penodi Cyfarwyddwr Cwrs i arwain eu helfen hwy o’r rhaglen.
Meddai Tecwyn Vaughan Jones, y Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer cyfraniad Prifysgol Bangor:
“Bydd Cymru’n bendant ar y map ar gyfer y myfyrwyr dawnus hyn. Pan ddychwelant i UDA, bydd ganddynt well dealltwriaeth o’r modd y mae diwydiant wedi ffurfio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd ein gwlad. Mae’n bleser gennym ein bod wedi gallu croesawu grŵp mor ddisglair o unigolion ar y Sefydliad Haf clodfawr hwn o eiddo Comisiwn Fulbright.
Mae Comisiwn Fulbright yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ysgoloriaethau addysgol ers mwy na 60 mlynedd. Menter newydd yw’r Sefydliadau Haf, sy’n anelu at gyflwyno myfyrwyr i’r Deyrnas Unedig, gan ddatblygu ac annog arweinyddiaeth ar yr un pryd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011