Ymwelwyr o lwyth y Mohociaid
Daeth dau o lwyth y Mohociaid yn Ontario, Canada i ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i ddysgu am ymchwil y Brifysgol ym maes ieithoedd lleiafrifol ac i rannu eu profiadau eu hunain yn y maes. Bu’r ymchwilwyr a’r addysgwyr yn ymweld â sawl unigolyn allweddol yn y brifysgol a’r ardal yn ystod yr ymweliad.
Cyflwynodd Callie Hill a Nathan Brinklow, Mohociaid o Tyendinaga, Ontario, Canada, seminar yn seiliedig ar waith Callie ar gyfer gradd Meistr ar adfywio iaith mewn cymuned nad yw (o reidrwydd) yn gweld ei phwysigrwydd. Roeddent yn ymchwilio a thrafod pwysigrwydd dysgu iaith o fewn hunaniaeth ddiwylliannol o safbwynt cymuned sydd wedi "colli" ei hiaith, hynny yw, lle nad oes unrhyw siaradwyr iaith gyntaf ar yr adeg y mae plant yn dechrau dysgu'r iaith. Daeth ysgolheigion a myfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau i’r seminar, gan gynnwys addysg, seicoleg a chymdeithaseg.
Daeth yr ymweliad yn sgil cysylltiadau a wnaed gan ymchwilydd ôl-radd, Siôn Aled Owen, sy’n ymchwilio i addysg ieithoedd lleiafrifol ac ymestyn y defnydd o’r ieithoedd hynny tu allan i’r ysgol. Roedd Siôn wedi dod i gysylltiad â’r ymwelwyr Mohocaidd wrth wneud ei ymchwil a mynd i nifer o gynadleddau.
Meddai Siôn:
“Mae gennym lawer i rannu o’n profiadau yng Nghymru a llawr i ddysgu o fentrau cymunedau cenedlaethau gyntaf yng Nghanada a llefydd eraill. Rwy’n falch bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan ei fod yn gyfle prin i glywed yn uniongyrchol gan addysgwyr o blith brodorion Gogledd America a holi ymhellach am eu profiadau a'u syniadau.
Dywedodd Dr Jean Ware, pennaeth Ymchwil yn yr Ysgol Addysg: “Mae gennym gryn ddiddordeb mewn addysg ddwyieithog yn yr Ysgol Addysg gan edrych ar Gymru ac ar sefyllfaoedd mewn cyd-destunau eraill hefyd mewn gwledydd fel Canada a Tsieina.”
Meddai Callie Hill, Prif Weithredwr Canolfan Iaith a diwylliant Tsi Tyonnheht Onkwawenna cyn iddi siarad yn y seminar yn yr Ysgol Addysg : “Mae gennych lawer i ddathlu yma yng Nghymru o ran sefyllfa’r iaith, ac rydym wedi bod yn awyddus i ddod draw i ddysgu a rhannu ein profiadau ers sawl blwyddyn. Rydym wedi gorfod dechrau o sefyllfa lle roeddem wedi colli siaradwyr ein mamiaith, ond ar ôl deng mlynedd rydym bellach mewn sefyllfa lle mae gennym deuluoedd sy’n magu eu plant i siarad ein hiaith fel iaith gyntaf.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015