Ymwybyddiaeth ofalgar ar frig yr agenda wrth i Weinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl ymweld â Phrifysgol Bangor
Bu i Luciana Berger, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, dreulio'r prynhawn yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor i gwrdd â'u tîm a thrafod ymwybyddiaeth ofalgar mewn cymdeithas. Wedyn, cyflwynodd Ms Berger ddarlith gyhoeddus y Dirprwy Is-ganghellor Yr Athro Oliver Turnbull ar Niwrowyddoniaeth i Seicotherapyddion.
Yn ystod y cyfarfod o gwmpas y bwrdd crwn, rhoddwyd y newyddion diweddaraf i Ms Berger ar yr hyfforddiant a'r ymchwil y mae CMRP wedi'i wneud ers ei ffurfio dros 10 mlynedd yn ôl, a bu iddi sgwrsio â Chris Ruane, cyd-sylfaenydd Grŵp Seneddol yr Holl Bleidiau ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Mae'r ganolfan yn rhan o Ysgol Seicoleg uchel ei pharch Bangor, a hon oedd y ganolfan gyntaf yn Ewrop wedi ymrwymo i hyfforddiant mewn dulliau ymwybyddiaeth ofalgar, a'r gyntaf i sefydlu rhaglen Meistr mewn ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r Ganolfan wedi hyfforddi mwy na 1,200 o weithwyr proffesiynol i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar.
Dywedodd Eluned Gold, seicotherapydd sydd wedi cofrestru â'r UKCP a Phennaeth Datblygu Personol a Phroffesiynol Parhaus yn y Ganolfan, bod gan ymwybyddiaeth ofalgar ran i'w chwarae wrth hybu iechyd a lles mewn unigolion a thrwy gymdeithas. Dywedodd bod dysgu ymwybyddiaeth ofalgar i rieni, yn arbennig yn ystod y cyfnod amenedigol, yn dysgu sgiliau i rieni a fydd yn cefnogi bywyd teulu am oes. Gall profiadau mewn plentyndod cynnar effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol plentyn hyd at ei fywyd fel oedolyn.
Er mwyn cefnogi hynny, mae'r Ganolfan yn ymchwilio i ac yn hyfforddi ymwybyddiaeth ofalgar drwy wahanol gyfnodau bywyd drwy ymwneud â phrojectau fel; Ymwybyddiaeth ofalgar a magu plant, Ymwybyddiaeth ofalgar a geni, Ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle ac Ymwybyddiaeth ofalgar gydag oedolion hŷn.
Dywedodd Ms Berger:
‘Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei gydnabod fwyfwy fel techneg bwysig ar gyfer rheoli a gwella iechyd meddwl. Mae Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran y gwaith hwn, ac roedd yn wych dysgu mwy am yr hyn maent yn ei wneud. Yn fy swydd fel Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, byddaf yn parhau i godi proffil iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar yn y Senedd.'
‘Dywedodd Eluned Gold, seicotherapydd sydd wedi cofrestru â'r UKCP a Phennaeth Datblygu Personol a Phroffesiynol Parhaus yn y Ganolfan, bod gan ymwybyddiaeth ofalgar ran i'w chwarae wrth hybu iechyd a lles mewn unigolion a thrwy gymdeithas.
‘Er gwaethaf tystiolaeth ragorol a chael ei chymeradwyo gan NICE fel ymyrraeth ar gyfer iselder rheolaidd; mae'r Therapi Gwybyddol wedi'i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) drwy GIG Lloegr yn dal yn dameidiog iawn. Hoffai 71% o feddygon teulu yn Lloegr gyfeirio cleifion at ymwybyddiaeth ofalgar, ond dim ond 1 mewn 5 sy'n ymwybodol o gael mynediad at ymwybyddiaeth ofalgar yn eu hardal’.
Dywedodd Chris Ruane, cyn Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd a Llywydd Anrhydeddus Grŵp Seneddol yr Holl Bleidiau (APPG) ar ymwybyddiaeth ofalgar:
‘Mae'r APPG ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cefnogi rhagor o ymchwil a gweithredu. Mae'r Ganolfan a Phrifysgol Bangor yn cael eu cydnabod a'u parchu'n rhyngwladol fel canolfan rhagoriaeth mewn addysgu a chynnal ansawdd yn y maes’.
Cyswllt:
Kate Talbot, Swyddfa Luciana Berger AS, 0207 219 7102, kate.talbot@parliament.uk
Sharon Hedley, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, 01248 383663, sharon.hadley@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2016