Yn ôl adroddiad, gellid creu ffrydiau incwm newydd wrth dyfu'n fasnachol blanhigion gwyllt sydd dan fygythiad o’u gor-gasglu
Efallai bod dail palmwydd egsotig o goedwigoedd yn Belize, Canolbarth America, sydd yn eich tusw Sul y Mamau eleni. Mae eu hallforio ar gyfer y diwydiant trefnu blodau yn bygwth parhad un planhigyn yn ei gynefin gwyllt ac mae'n enghraifft o un o lawer o fygythiadau o'r fath i glystyrau o blanhigion gwyllt.
Gor-hel yw un o’r prif fygythiadau i boblogaethau planhigion gwyllt o amgylch y byd. I oresgyn hyn, mae diddordeb cynyddol mewn tyfu cnydau rhywogaethau sy’n cael eu hel, gyda’r nod o leihau’r defnydd o boblogaethau gwyllt a gwella bywoliaethau pobl. Er mwyn gwireddu hyn, mae ar bobl angen y wybodaeth fel y gallant dyfu’r planhigion eu hunain. Yn 2006, bu Gardd Fotaneg Belize yn hyfforddi ffermwyr lleol i dyfu’r rhywogaeth palmwydd fel rhan o Broject Menter Darwin gan y DU. Bernir y palmwydd egsotig i fod o dan fygythiad yn ei gynefin gwyllt. Mae hefyd y rhywogaeth bwysicaf yn economegol.
Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, gwelwyd bod hyfforddiant wedi bod yn fuddiol. Mae’r ymchwil, a gyhoeddir gan PLoS ONE heddiw (14.3.12) yn dangos bod hyfforddiant wedi cyfrannu at wybodaeth dechnegol am feithrin xaté ac wedi newid ymddygiad pobl drwy eu hannog i amaethu’r rywogaeth sydd yn cael ei gor-gynaeafu.
ywedodd prif awdur yr astudiaeth, Sophie Williams, o Brifysgol Bangor, “Mae’r xaté, neu ddail palmwydd, yn cael eu hallforio i Ewrop a'r Unol Daleithiau ar gyfer trefniadau blodau ac mae’n ddiwydiant yn werth miliynau o ddoleri. Gallai pobl Belize feithrin y rhywogaeth hon fel nad oes rhaid i’r holl gyflenwad i’r farchnad ddod o'r clystyrau gwyllt.”
Esboniodd Colin Clubbe o gerddi Kew, awdur arall o’r astudiaeth: “Roedd y rhaglen hyfforddi wedi dylanwadu ar ymddygiad drwy ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen i dyfu rhywogaeth newydd, ond roedd hefyd wedi cynyddu ffydd pobl yn eu gallu i dyfu rhywogaeth newydd. Mae hyn yn hanfodol i bobl fynd ati i feithrin y planhigyn pwysig hwn.”
Bydd canlyniadau'r astudiaeth hon yn gymorth i’r gwaith o gynllunio rhaglenni hyfforddi ar gyfer annog amaethu rhywogaethau sy’n cael ei gor-hel. Mae’r ymchwilwyr yn galw am i raglenni hyfforddi yn y dyfodol ystyried darparu adnoddau i helpu pobl i dyfu cnydau newydd, fel hadau neu blanhigion ifainc, yn ogystal â darparu sgiliau technegol sydd eu hangen i feithrin rhywogaethau sy’n cael eu gor-gynaeafu.
Cyllidwyd yr ymchwil gan Brifysgol Bangor, yr Ymddiriedolaeth Bentham-Moxon, Kew a’r Gymrodoriaeth Ryngwladol dros Adnoddau Naturiol.
Lluniau Sophie i'w gweld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012