Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm Chwaraeon newydd
Daeth yr Arglwydd Coe, yr un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i agor cyfleuster chwaraeon newydd yn swyddogol.
Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, agorodd Seb Coe gyfleuster tenis a phêl rwyd newydd yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Mae'r dôm chwaraeon yn rhan o gynllun sy'n dal i fynd rhagddo o atgyweirio cyfleusterau chwaraeon y brifysgol a ddefnyddir gan fyfyrwyr a'r gymuned leol. Mae'r dôm yn cynnig cyfleusterau chwarae pêl rwyd a thenis dan do trwy gydol y flwyddyn heb orfod poeni am y tywydd.
Costiodd yr adeiledd ychydig dros hanner miliwn o bunnoedd i'w adeiladu. Mae'n mesur 73m x 26m ac yn cynnwys dau gwrt tenis a phêl rwyd dan do maint llawn. Mae dau gwrt pêl rwyd eisoes gan Fangor sy’n golygu mai dyma’r unig safle yn y rhanbarth sydd â 4 cwrt pêl rwyd.
Meddai Is-Ganghellor Bangor, yr Athro John G Hughes: “Rydym wrth ein bodd fod unigolyn mor amlwg ym myd chwaraeon â'r Arglwydd Coe yn dod i agor yr adeilad. Mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ddiweddar mewn datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol i fyfyrwyr sy’n gwneud y brifysgol yn lle hyd yn oed fwy deniadol iddynt”.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon y brifysgol: “"Fel prifysgol a thrwy broses tendro Galw am Weithredu Chwaraeon Cymru gwelwyd dull cost effeithiol o wneud defnydd llawer gwell o rai o'r cyrtiau tenis allanol oedd o ansawdd gwael. Llwyddwyd i godi'r Dôm o fewn cyfnod byr iawn dros yr haf, gan olygu y bydd ar gael i'n myfyrwyr ac i ysgolion sy'n ymweld o'r tymor hwn ymlaen. Mae codi'r dom yn cwblhau Cam 1 o'n project atgyweirio dau gam. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at Gam 2 fydd yn dechrau ychydig cyn y Nadolig."
Meddai Graham Williams, Rheolwr Rhanbarth y Gogledd Chwaraeon Cymru: "Yn 2012, trwy’r project Galw am Weithredu, cynigiodd Chwaraeon Cymru £1.5 miliwn o arian ychwanegol i wneud poblogaeth Cymru’n fwy egnïol ac iach.
“Trwy greu partneriaethau newydd megis y bartneriaeth hon gyda Phrifysgol Bangor a Phêl Rwyd Cymru mae’r project wedi ymdrechu i fynd i’r afael â rhwystrau, megis diffyg cyfleusterau addas i’w defnyddio, oedd yn atal cymunedau rhag mwynhau cyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon.
“Ychydig dros 12 mis wedyn rydym wrth ein bodd yn gweld y dom pêl-rwyd a thenis newydd yn cael ei agor yn swyddogol. Bydd yn cynnig cyfleusterau ar hyd y flwyddyn, nid dim ond i’r boblogaeth myfyrwyr ond i ysgolion a thrigolion y cymunedau lleol. Credwn y gall y math hwn o broject gael effaith fawr yn enwedig ar ferched, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y caiff y cyfleuster chwaraeon blaengar a hyblyg hwn ei ddefnyddio yn y dyfodol..”
Cyfrannodd Chwaraeon Cymru £80,000 tuag at y project.
Y bwriad yw agor y cyfleusterau chwaraeon ar eu newydd wedd erbyn haf 2014. Byddant yn cynnwys campfa ddeulawr newydd sbon, stiwdio aerobeg newydd, ystafelloedd newid cyhoeddus a chawodydd newydd a gwell, a llawr newydd yn y brif neuadd chwaraeon.
Meddai Lucy Murray-Williams, Swyddog Datblygu Pêl-rwyd Gogledd Orllewin Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r dom yn cynnig gofod yr oedd gwir angen amdano lle gallwn ddatblygu pêl-rwyd ymysg pobl ifanc a sicrhau bod gennym le i glybiau ac ysgolion hyfforddi yn y dyfodol - fel rheol mae'n rhaid i ni gystadlu am le mewn neuaddau chwaraeon â thimau pêl droed pump bob ochr ond bydd cael ein lle pwrpasol ein hunain yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r genhedlaeth nesaf o bêl-rwydwyr yng Ngogledd Cymru".
Mae ffilm fer o adeiladu'r Dôm ar gael yma a ffilm o'r Agoriad (yn Saesneg) yma.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013