Yr Athro John Turner, Deon Newydd Ymchwil Ôl-radd
Mae'r Athro Turner wedi'i benodi i swydd newydd ym Mhrifysgol Bangor, sef Deon Ymchwil Ôl-radd.
Bydd yr Athro Turner yn arwain yr Ysgol Ddoethurol yn y swydd allweddol hon i gefnogi a datblygu cymuned ymchwil ôl-radd y brifysgol, sydd eisoes yn fywiog a blaengar. Amcanion yr Ysgol Ddoethurol yw rhoi hyfforddiant a chefnogaeth o safon uchel, sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil yn cael profiad rhagorol, denu cynlluniau cyllido newydd, a chynyddu nifer myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd yr Ysgol Ddoethurol yn rhoi amgylchedd dysgu traws-ddisgyblaethol cyffrous a bywiog, gan ddod ag ymchwilwyr newydd a phrofiadol at ei gilydd i sicrhau rhagoriaeth mewn ymchwil, creu cynlluniau rhyngwladol a rhyng-sefydliadol i gydweithio, a gwella cyfleoedd i raddedigion y brifysgol mewn gyrfaoedd ymchwil a phroffesiynol.
Meddai John
'Mae gofynion myfyrwyr doethuriaeth a graddau doethuriaeth yn newid ac rydym yn cydnabod hynny drwy adeiladu sefydliad neilltuol i uno a hyrwyddo addysg a gweinyddiaeth o safon uchel i raddedigion ar draws y brifysgol er mwyn creu amgylchedd ymchwil rhagorol i gefnogi datblygiad ymchwilwyr annibynnol. Byddwn yn darparu gweithgareddau, digwyddiadau, cyrsiau a gweithdai i ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol i gyfnerthu hyfforddiant academaidd a thechnegol mewn gwahanol ddisgyblaethau, ac i ddangos amrywiaeth ymchwil ddoethurol i bartneriaid ac i'r cyhoedd. Wedi'r cyfan, ein myfyrwyr doethurol yw arweinwyr ymchwil arloesol y dyfodol ac mae'n rhaid i ni roi iddynt brofiad o'r radd flaenaf."
Meddai Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Effaith "Rwy’n hynod falch bod John wedi cymryd y swyddogaeth newydd yma. Dwi'n gwybod y bydd yn dod â chyfoeth o brofiad, brwdfrydedd ac ymroddiad i arwain yr Ysgol Ddoethurol ac i'w gwneud yn llwyddiant mawr."
Ers 22 mlynedd mae John Turner wedi arwain cwrs MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr, cwrs sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae wedi bod yn Ddarlithydd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Mauritius a bu'n ymwneud â sefydlu hyfforddiant ôl-radd yn Nwyrain Affrica a Mecsico. Mae'n arholwr allanol rheolaidd ar lefelau ôl-radd hyfforddedig ac ymchwil. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu iddo gan y brifysgol yn 2007 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd yn y Gwyddorau Eigion er 2011, gan oruchwylio myfyrwyr cartref a rhyngwladol sy'n aml yn ymwneud â phrojectau dramor.
Biolegydd maes ydi John, gan wneud arbrofion ac arolygon tanddwr, ac mae ganddo brofiad o reoli gweithgareddau deifio gwyddonol. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar warchod amgylchedd y môr ac mae wedi cyflawni projectau datblygu cynaliadwy i sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig a'r Global Environment Facility, yn ogystal â gwneud asesiadau effaith ar amgylchedd y môr i gwmnïau mawr. Yn ddiweddar bu'n Brif Ymchwilydd i dri o brojectau Cynllun Darwin Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynllunio a chryfhau Ardaloedd Môr Gwarchodedig yn Nhiriogaethau Tramor y DU yng Nghefnfor India a Môr y Caribî. Yn 2015 enillodd Wobr Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus a Gwasanaethau Cyhoeddus, a noddir gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Mae gan John radd mewn Botaneg a Sŵoleg o Brifysgol Bryste a doethuriaeth mewn symbiosis môr o Goleg St John's ym Mhrifysgol Rhydychen. Daeth i Brifysgol Bangor yn 1985 i swydd ôl-ddoethurol mewn Sŵoleg cyn cael swydd mewn Bioleg Môr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn 1988. Yno mae wedi datblygu dysgu ac ymchwil ym maes bioleg amgylcheddau môr tymherus a throfannol, gan ganolbwyntio erbyn hyn ar wytnwch ecosystemau riffiau cwrel a chadwraeth môr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016